Pleidlais Syria: ASau wedi'u 'bwlio'

awyren Image copyright PA

Mae rhai Aelodau Seneddol Llafur o Gymru'n honni eu bod wedi cael eu "bwlio" am gefnogi cyrchoedd awyr yn Syria.

Fe wnaeth 66 AS o'r blaid gefnogi'r llywodraeth Geidwadol mewn pleidlais Seneddol nos Fercher.

Mae rhai o'r rheini, gan gynnwys Chris Bryant AS Y Rhondda, aelod o gabinet yr wrthblaid, yn dweud fod rhai unigolion "wedi mynd yn rhy bell."

Dywedodd fod rhai ASau wedi derbyn "lluniau o blant marw" drwy eu blwch post a bod rhai wedi derbyn lluniau o bobl wedi'u dienyddio.

'Bygwth'

Roedd arweinydd Llafur Jeremy Corbyn yn erbyn y cyrchoedd ond fe roddodd hawl i ASau ei blaid bleidleisio yn ôl eu cydwybod.

Ond dywedodd Mr Bryant fod rhai Aelodau Seneddol bleidleisiodd yn groes i Mr Corbyn wedi eu "bygwth."

Cafodd tai rhai aelodau eu hamgylchynu a'u swyddfeydd eu baricedio, meddai.

Image caption (Chwith i'r dde) Wayne David, Chris Evans a Chris Bryant

Ar BBC Radio Wales dywedodd AS Caerffili, Wayne David, fod rhai aelodau wedi "defnyddio tactegau" i geisio dylanwadu ar bleidlais ASau.

Honnodd ei fod wedi cael ei alw'n "rhyfelgi" a "llofrudd" mewn galwadau ffôn di-enw.

Ychwanegodd Mr David, llefarydd ei blaid ar gyfiawnder, y "cafodd menywod ac ASau ieuengach eu targedu" gan aelodau'r blaid.

'Gwarthus'

Dywedodd Chris Evans AS fod rhai "unigolion a grwpiau" wedi ymddwyn yn "warthus" yn ystod y ddadl.

Roedd AS Islwyn wedi ei ddychryn fod cymaint yn ei blaid yn ystyried y penderfyniad o fynd i ryfel fel mater o gefnogi arweinyddiaeth Mr Corbyn neu beidio.

"Nid refferendwm ar arweinyddiaeth y blaid ydi'r bleidlais," meddai.

"Mae'n llawer pwysicach na hynny."

'Lot i'w ddysgu'

Fe ddywedodd Mr David fod gan arweinydd ei blaid "ddiawl o lot i'w ddysgu".

Ychwanegodd nad oedd am i Mr Corbyn gamu i'r neilltu, ond bod "rhaid iddo ddechrau gwrando os ydy e am wneud Llafur yn boblogaidd".

Yn ôl Mr David, fe wnaeth Tŷ'r Cyffredin "y penderfyniad cywir i amddiffyn y wlad hon".

Roedd y penderfyniad i gefnogi'r cyrchoedd "yn pwyso'n drwm," meddai, "ond dw i'n siŵr mod i wedi gwneud y peth iawn".

Straeon perthnasol