Ffrwydrad 1916: Dod o hyd i feddau yn ardal Wrecsam

Yr haneswyr lleol Robert Webb, Mike Gross a Phil Coops ar safle'r beddau
Image caption Yr haneswyr lleol Robert Webb, Mike Gross a Phil Coops ar safle'r beddi

Mae haneswyr yn ardal Wrecsam wedi dod o hyd i feddau pedwar plentyn gafodd eu lladd pan ffrwydrodd siel Almaenig mewn tŷ yn 1916.

Digwyddodd y ffrwydrad pan ddychwelodd y Preifat John Bagnall i'w gartref yn Nyffryn Moss ar ôl bod yn ymladd am 18 mis yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd wedi dod â'r siel Almaenig adref ond fe ffrwydrodd wrth iddo'i gollwng ar lawr.

Roedd chwech o bobl eraill yn y bwthyn ar y pryd: gwraig y Preifat Bagnall, Mary; ei ferch ddyflwydd oed, Sarah; nith iddo, Violet, oedd yn saith; chwaer Sarah Roberts a'i dau blentyn, Mary ac Ethel, oedd yn bump a 15 mis.

Cafodd Ethel ei lladd yn syth. Bu farw'r tair arall yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd rhai eraill anafiadau difrifol. Collodd Sarah Roberts ei dwy goes, a'r Preifat Bagnall ei hun un goes.

Image copyright Wrexham Advertiser | Wrexham Museum

Ail-ddarganfod yr hanes

Bron i ganrif wedi'r drychineb penderfynodd haneswyr ymchwilio ymhellach i'r stori. Ar ymweliad ag Eglwys y Drindod Sanctaidd yng Ngwersyllt daeth Phil Coops a Robert Webb o hyd i lyfrau oedd yn cofnodi manylion claddu'r pedwar plentyn.

"Trwy lwytho'r manylion ar fas data a defnyddio'r hyn roedden ni'n ei wybod am yr eglwys," meddai Mr Coops, "mi lwyddon ni i ddod i hyd i'r man lle cawson nhw'u claddu."

Ond doedd dim cerrig beddau. Dangosodd gwaith ymchwil fod arian wedi ei godi'n lleol i dalu am angladdau'r plant, ac er bod digon o arian i dalu am y beddi eu hunain, mae'n ymddangos nad oedd digon ar ôl i dalu am gerrig beddau.

Image caption Safle'r bwthyn yn Nyffryn Moss lle digwyddodd y ffrwydrad

'Damwain drasig'

Nawr mae'r haneswyr eisiau dod o hyd i berthnasau fel y gallan nhw gael caniatâd i godi cofeb ger y beddau.

Maen nhw eisoes wedi cwrdd â rhywun ond doedd gan y disgynyddion ddim llawer o wybodaeth am hanes eu teulu.

"Mae'n ymddangos fod yr hanes wedi ei guddio dan y carped," meddai Mr Coops. "Roedd hi'n ddamwain drasig nad oedd neb eisiau siarad amdani."

Ar un adeg roedd y bwthyn yng nghanol cymuned ddiwydiannol brysur yn Nyffryn Moss, ond bellach does dim ar ôl o'r bwthyn na'r tai oedd o'i gwmpas.

Codi cofeb

Y gobaith yw codi cofeb i'r plant ganrif ers y drychineb.

"Mae'n drist fod yr hanes wedi ei anghofio", meddai Mr Coops.

"Rydyn ni eisiau nodi'r peth, eisiau gwneud yn siwr fod pobl yn gwybod am yr hanes."