Bywyd newydd

Mae'r drefn o roi organau yng Nghymru wedi newid. Bellach mae'n rhaid i bobl ddatgan os nad ydyn nhw yn dymuno i'w horganau gael eu defnyddio ar ôl iddyn nhw farw.

Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn siarad â phobl sydd wedi cael trawsblaniad organ:


Cyflwynydd BBC Radio Cymru, Tommo

Pan o'n i'n 20 oed ac yn gweithio i'r swyddfa bost, roedd rhaid cael prawf gwaed yn rheolaidd, ac roedd fy mhwysau gwaed i'n uchel iawn. Pan es i i'r ysbyty, ges i'r diagnosis mai dim ond un aren oedd gen i. Ond ar ôl aros yn yr ysbyty i gael fy mhwyse gwaed i lawr, ges i'n anfon adre, a mwy neu lai anghofio am y peth.

Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, ro'n i a ngwraig Donna yn cael trafferth cael plant, a phan es i i'r ysbyty, roedd y doctoriaid yn synnu pa mor wael o'n i. Disgrifiodd un doctor fi fel "dying on his feet".

Roedd yr aren erbyn hynny yn gweithio llai na 50% ac yn gwaethygu. Dechreuais i gael dialysis yn Ionawr 2007 a chael trawsblaniad aren ym Mehefin yr un flwyddyn yng Nghaerdydd. Mae'r aren mewn 'poced' bach ar dop fy nghoes i, gan ei fod yn haws cyrraedd y bledren o fan'no.

Pan mae organ ar gael, mae'r pencadlys ym Mryste yn ffonio rhestr o bobl sy'n aros, ac yn gadael i'r ffôn ganu pum gwaith cyn symud ymlaen i'r enw nesaf ar y rhestr. Fi oedd yr ail alwad ffôn, gan fod y person cyntaf heb ateb - am lwcus!

Ro'n i yn yr ysbyty am wythnos ac yn ôl ar y radio bythefnos yn ddiweddarach. Ro'n i'n teimlo fel taswn i wedi cael ail gyfle ar fywyd, ac felly ddim eisiau methu eiliad yn fwy.

Dwi'n cymryd tabledi anti-rejection bob 12 awr, ac yn mynd i gael check-up bob tri mis - a byth ofn mynd at y doctor os nad ydw i'n teimlo'n dda, yn enwedig gan mai aren 'ail-law' yw e.

Bellach, mae gan Donna a fi fab 5 oed, Cian, a dwi'n gweithio ar BBC Radio Cymru. Dwi'n teimlo fel tase fy mreuddwydion i wedi dod yn wir - a fi'n deffro bob bore yn ddiolchgar mod i yma!


Image copyright Brenda Roberts

Brenda Roberts

Yn 1991, cefais ddiagnosis o afiechyd ar yr iau - Primary Billiary Cirrosis. Yn Ebrill 2012, yn dilyn canlyniadau abnormal i brawf gwaed, ges i'r cadarnhad fy mod i angen trawsblaniad iau, a'm rhoi ar y rhestr trawsblaniad ym mis Gorffennaf.

Roedd fy nhrawsblaniad ar 8 Medi 2012. Ffeindiais allan wedyn mai dim ond rhyw 48 awr arall y byswn i wedi byw petai'r trawsblaniad heb ddigwydd.

Daeth y iau gan ddynes o Gaeredin, a dwi'n fythol ddiolchgar i'w theulu am ganiatáu i'r trawsblaniad ddigwydd.

Cymerodd hi eithaf hir i mi ddod dros bethau. Roeddwn i, wrth gwrs, yn ddiamynedd, ond roedd rhaid i mi wrando ar fy nghorff a gorffwyso, er mi 'nes i lwyddo i chwarae gêm golff naw twll yn y gystadleuaeth Nadolig!

Rydw i nawr yn cael check-up bob chwe mis a byddai'n cymryd immunosuppressants am weddill fy mywyd gan y bydd fy nghorff yn ceisio gwrthod fy iau am byth.

Pan o'n i yn yr ysbyty, soniodd rhywun am y Gemau Trawsblaniad, ac roedd y doctoriaid yn tynnu fy nghoes y byswn i'n gallu cymryd rhan a gwella fy handicap.

Cymerais ran yng Ngemau Trawsblaniad Prydain yn Awst 2014, ac ennill medalau aur ac arian am chwarae golff, ac o ganlyniad, cael fy newis i chwarae yn Ngemau Trawsblaniad y Byd yn yr Ariannin yn Awst eleni.

Roedd cael bod yn y Gemau yn brofiad anhygoel - ro'n i mor falch o fod yn cynrychioli tîm Prydain. Roedd 'na 115 o athletwyr yn y tîm, a daethon ni i 'nabod a chefnogi ein gilydd yn ein campau gwahanol.

Ennill fy medal aur mewn golff oedd uchafbwynt fy mywyd. Dydi hi ddim rhy ddrwg, cynrychioli dy wlad am y tro cyntaf yn 63 oed!

Rydw'n mwynhau siarad gyda phobl am y Gyfraith Rhoi Organau newydd yng Nghymru.

Yn aml, ar y dechrau, dydyn nhw ddim yn poeni rhyw lawer, ond mae hyn yn newid pan maen nhw'n cael siarad efo rhywun sydd wedi cael trawsblaniad.

Dwi wir yn meddwl fod y newid yn y gyfraith yn beth da, hyd yn oed os ond i wneud pobl i feddwl amdano a siarad â'u teuluoedd am y peth.

Yn aml dwi'n meddwl tybed pam ges i'n achub - dwi ddim yn meddwl mai dim ond i chwarae golff oedd o!!


Image copyright Leni Hatcher

Leni Hatcher

Gobeithio, syched a chysgu....

Dyna oedd fy mywyd i pan oeddwn ni'n aros i gael trawsblaniad. Gobeithio fyddai'r alwad hwnnw'n dod cyn iddi fynd yn rhy hwyr, syched ofnadwy am unrhywbeth i'w yfed - achos mod i ond yn cael yfed 300ml y dydd (llai na chan o ddiod) a chysgu drwy'r amser achos doedd gen i ddim egni o gwbl.

Cefais y diagnosis pan oeddwn ni'n naw oed, a chael gwybod "rhyw ddydd yn y dyfodol pell, fyddi di angen aren newydd". Pan o'n i'n 15 oed, 'naeth yr arennau fethu'n gyfan gwbl.

Roedd hi'n beth anodd iawn i ddygymod 'a, i feddwl ei bod hi'n amser mor bwysig ym mywyd fy ffrindiau: pawb yn arbrofi gydag alcohol am y tro cyntaf, rhai'n mynd i bartïon, cyfnod boom y ffonau symudol a'r hair straighteners. Yn anffodus dim fel 'na aeth hi i fi.

Tra oedd fy ffrindiau i allan yn joio, roeddwn i'n gaeth i beiriant dialysis am naw awr y nosweth. Hyd yn oed petawn i wedi gallu mynd allan i ddawnsio fyddwn ni wedi ei gweld hi'n anodd achos, doedd gen i ddim egni o gwbl - roedd hi'n job i godi a mynd i'r ysgol!

A doedd dim pwynt trio cadw lan â'r ffasiynau diweddara' achos fod fy wyneb i wedi chwyddo lan oherwydd steroids, fy ngwallt i'n cwympo mas ac roeddwn ni'n wyn fel y galchen - 'sai'n meddwl welech chi'r look yna mewn unrhyw gylchgrawn i ferched ifanc.

Ond ar ôl dwy flynedd o aros, ar 28 o Chwefror 2002, fe ddaeth yr alwad - roedd yna aren i mi.

Ma' rhaid i fi weud - fi ddim yn berson crefyddol ond roedd hwn fel gwyrth. Unwaith dechreuodd fy ngwaed i lifo drwy'r aren newydd daeth rhyw deimlad o ail gyfle. Roeddwn i'n llawn egni, llawn gobaith am y dyfodol.

Dywedodd y doctoriaid wrtha i fyddwn i'n cael mynd adre mewn 10-14 diwrnod... ond bu'r llawdriniaeth yn gymaint o lwyddiant o'n i adre'n gwylio 'Dawson's Creek' dridiau'n ddiweddarach a nôl yn yr ysgol wythnos ar ôl hynny.

A dwi ddim 'di edrych nôl.

Efallai ei bod hi'n haws arna i achos fod gen i esgus i fyw bywyd i'r eithaf... dwi'n gwybod sut beth yw gorwedd mewn gwely yn aros i fy mywyd ail-ddechrau.

Ers cael y trawsblaniad, dwi 'di teithio'r byd, dysgu iaith newydd, wedi bod yn gyflwynydd teledu, wedi byw mewn campervan, wedi concro Machu Picchu, wedi goroesi yn jwngwl Borneo... ac mae'r diolch I GYD i'r person hwnnw wnaeth y penderfyniad anodd iawn i ymuno â'r gofrestr rhoddwyr organau.

Y rhodd orau gefais i erioed!