Difrodi ceir: Y Ffair Aeaf yn trafod

Gan fod nifer o geir wedi eu difrodi mewn llifogydd ar Faes y Sioe Frenhinol yn ystod y Ffair Aeaf mae'r sioe'n trafod â chwmnïau yswiriant ynglŷn â'r helynt.
Mewn rhai rhannau o'r maes parcio yn Llanelwedd ddydd Llun roedd adroddiadau bod y dŵr cyn uched â thair troedfedd.
Fe gafodd rhai ceir eu symud ond bu'n rhaid i bobl eraill adael eu ceir dros nos. Fe dalodd y sioe am dacsis i gludo pobl adref.
Fe glywodd rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru ddydd Gwener gan dri o bobl gafodd eu heffeithio.
Diffyg cyhoeddiadau?
Mae Carys Owen o Sanclêr, Eileen Curry o Landysul a Dai Dyer o Lanymddyfri oll wedi cael gwybod nad oes modd trwsio'u ceir.
Er i'r tri gydnabod fod y tywydd yn arw, maen nhw'n cwyno nad oedd yna gyhoeddiadau yn ystod y dydd i roi gwybod i ymwelwyr fod trafferthion yn y maes parcio.
Fe ddywedodd dirprwy brif weithredwr y sioe, Aled Jones, ei fod yn cydymdeimlo â phawb gafodd eu heffeithio wedi'r llifogydd ar y safle.
Ychwanegodd eu bod nhw'n teimlo y byddai darlledu cyhoeddiadau ar faes y sioe wedi creu panig, gan achosi i bobl ruthro ac chreu rhagor o drafferthion.
Mae'r sioe wedi sefydlu llinell gymorth arbennig i bobl wedi'r llifogydd.