Canolfan hamdden Nova yn ail-agor ym Mhrestatyn

Nova Image copyright Cyngor Sir Ddinbych

Mae canolfan hamdden yn Sir Ddinbych yn ailagor ddydd Sadwrn yn dilyn adnewyddiad gwerth £4.4m.

Fe fydd diwrnod o hwyl yn cael ei gynnal fel rhan o'r agoriad yng Nghanolfan Nova ym Mhrestatyn.

Mae'r ganolfan wedi bod ar gau am bron i ddwy flynedd ar ôl i'r ymddiriedolaeth oedd yn ei redeg fynd i'r wal.

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal yno o 12:00 ddydd Sadwrn, gyda'r cyflwynydd teledu Gethin Jones yn agor y ganolfan yn swyddogol am 17:00.

Image copyright Cyngor Sir Ddinbych
Image copyright Cyngor Sir Ddinbych