Dan Biggar yn arwyddo cytundeb deuol newydd

Dan Biggar Image copyright Undeb Rygbi Cymru

Mae maswr Cymru a'r Gweilch, Dan Biggar, wedi arwyddo cytundeb deuol newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.

Fe wnaeth Biggar arwyddo ei gytundeb cyntaf gyda'r undeb ym mis Mawrth, ac mae'r ddêl newydd ag opsiwn allai ei gadw yng Nghymru nes o leiaf Cwpan Rygbi'r Byd 2019.

Biggar yw'r chwaraewr cyntaf i ail-arwyddo cytundeb deuol.

Roedd ei hen gytundeb yn dod i ben yn haf 2016.