Treviso 20-22 Scarlets

Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd cic gosb Steven Shingler gyda phum munud i fynd yn ddigon i roi buddugoliaeth i'r Scarlets yn Treviso.

Mae'r canlyniad yn mynd a thîm Wayne Pivac ar frig y Pro 12.

Yr asgellwr, DTH van der Merwe, a'r wythwr, Morgan Allen, sgoriodd y ceisiau i'r Scarlets.

Ond gyda 10 munud yn weddill roedd ail gais Sam Christie i Treviso wedi bygwth gobeithion y tîm oddi cartref.