Abertawe 0-3 Caerlŷr

Abertawe Image copyright PA

Mae'r pwysau yn cynyddu ar reolwr Abertawe, Garry Monk, ar ôl i'w dîm golli gartref i Gaerlŷr.

Fe sgoriodd Riyad Mahrez dair gôl i'r ymwelwyr gan fynd a nhw ar frig yr Uwch Gynghrair.

Mae'r canlyniad yn gadael yr Elyrch yn y 15fed safle yn y gynghrair, pedwar pwynt yn uwch na'r tri sydd ar y gwaelod.

Roedd Monk eisoes dan bwysau, ac mae'n debyg y bydd y fuddugoliaeth i Gaerlŷr yn gwneud ei sefyllfa yn fwy bregus.