Torquay 0-1 Wrecsam

Wrecsam Image copyright Getty Images

Mae Wrecsam wedi mynd i'r pumed safle yn dilyn buddugoliaeth yn Torquay.

Mark Carrington sgoriodd unig gôl y gêm i'r ymwelwyr.

Torquay gafodd y cyfleoedd gorau ar y dechrau gyda Courtney Richards a Kevin Nicholson yn dod yn agos.

Daeth Nathan Smith hefyd o fewn trwch blewyn i sgorio i'r tîm cartref o gic cornel.