Bolton 2-3 Caerdydd

Caerdydd Image copyright Getty Images

Fe sgoriodd Anthony Pilkington gyda 10 munud yn weddill i roi buddugoliaeth i Gaerdydd yn Bolton.

Daeth y tîm cartref yn ôl ddwywaith yn erbyn yr ymwelwyr.

Fe roddodd Tony Watt Caerdydd ar y blaen cyn i Gary Madine wneud hi'n gyfartal i Bolton.

Scott Malone sgoriodd yr ail i'r Adar Gleision i roi'r ymwelwyr yn ôl ar y blaen, cyn i Dorian Dervite wneud hi'n gyfartal eto.

Ond roedd gôl hwyr Pilkington yn ddigon i roi'r tri phwynt i dîm Russell Slade.