Zebre 22-39 Gweilch

rygbi Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe chwaraeodd Jeff Hassler dros Ganada yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015

Roedd Justin Tipuric yn un o sêr y gêm wrth i'r Gweilch gipio buddugoliaeth i ffwrdd yn Zebre yn y Pro12.

Fe sgoriodd blaenasgellwr Cymru ddau gais a chwarae rôl yn y ddau arall wrth i'r rhanbarth ennill yn yr Eidal.

Jeff Hassler, Eli Walker a Jonathan Spratt gafodd y ceisiau eraill a chiciodd Sam Davies 14 o bwyntiau.

Fe groesodd Kayle van Zyl am ei ail gais i Zebre tuag at y diwedd, ond dim ond cysur oedd hynny i'r tîm cartref.