Dreigiau 22-6 Munster

rygbi

Rynard Landman gafodd gais olaf y gêm wrth i'r Dreigiau ennill gartref yn erbyn Munster.

Fe giciodd Dorian Jones i'r tîm cartref a Rory Scannell i'r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf.

Ond y Dreigiau gafodd y gorau o'r ail hanner ar Rodney Parade gyda chais y capten, Landman, yn coroni'r perfformiad.

Mae'r canlyniad yn mynd a thîm Kingsley Jones i'r nawfed safle.