Gweinidog o Gymru i ymweld â`r gynhadledd newid hinsawdd

mwg

Ar ddechrau'r ail wythnos o drafodaethau i geisio sicrhau cytundeb ar newid hinsnawdd erbyn ddydd Gwener, fe fydd gweinidogion o 195 o wledydd, yn cwrdd ym Mharis.

Y dasg fydd sefydlu Cytundeb byd eang ar leihau allyriadau nwyon fel carbon, a sefydlu cronfa ariannol i wneud y gwaith yn haws i weldydd a rhanbarthau tlotaf y byd.

Mae gweinidog amgylchedd Cymru a nifer o ymgyrchwyr yn bwriadu bod yn Ffrainc yn ystod yr wythnos.

Torri ar allyriadau carbon

Wythnos yn ôl gyda arweinwyr mwyaf dylanwadol y byd yn dod i Baris, bythefnos wedi ymosodiadau terfysgol a laddodd 130 o bobl, roedd yn amlwg bod awydd i sefydlu cytundeb fydd yn ceisio cadw y cynnydd tebygol yn nhymhered y byd i fod yn llai na 2C erbyn diwedd y ganrif.

I wneud hynny bydd angen I bob gwladwriaeth addo torri ar allyriadau carbon, ond hefyd nwyon eraill sy'n cynhesu'r ddaear.

Image caption Mae gweinidog amgylchedd Cymru Carl Sargeant yn bwriadu bod yn Ffrainc yn ystod yr wythnos.

Yr ail ffactor fydd sefydlu cronfa i wneud y gwaith o addasu i newidiadau hinsawdd yn llai niweidiol i bobl y gwledydd sy'n datblygu. Y tlotaf fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan brinder bwyd a dwr croyw, llifogydd a phobl yn mudo.

Gan fod yr arweinwyr wedi dod ar ddechrau'r gynhadledd, yn hytrach nag ar y diwedd fel a welwyd yn Copenhagen 6 blynedd yn ôl, mae na deimlad mwy cadarnhaol y gellid cyrraedd cytundeb gwerth ei gael ym Mharis.

Ond fe fydd angen i rhai gwladwriaethau sy'n datblygu'n gyflym - fel India a China - dorri ar eu hallyriadau yn ogystal a gwario mwy eu hunain ar ynni adnewyddol, ac osgoi llygredd awyr sy'n effeithio ar eu dinasyddion eu hunain.

Y prif wleidydd o Brydain yr wythnos hon fydd Amber Rudd yr ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd. Tra y bydd hi yn y trafodaethau, cwrdd â phobl o ddinasoedd a rhanbarthau ar y cyrion y mae Carl Sargeant o Lywodraeth Cymru.

Ymgyrchwyr Cymreig

Mi fydd ymgyrchwyr Cymreig eraill hefyd yn hyrwyddo a thynnu sylw at yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.

Mae na graffu yn sicr ar bolisiau llywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd gan fod y llywodraeth Geidwadol yn cael ei chyhuddo o fod yn rhagrithiol wrth ddelio â newid hinsawdd.

Yn ôl mudiad Cyfeillion y Ddaear mae'r Canghellor, George Osborne i'w weld yn "troi cefn ar gefnogi ynni adnewyddol a ffafrio'r diwydiant nwy.

"Mae ei benderfyniad i newid sut mae trwyddedu ceir, hefyd o bosibl yn gallu arwain at bobl yn prynu ceir mwy, gan waethygu ansawdd awyr ein trefi yn fwy byth." meddai'r mudiad.