Treial band eang tra-chyflym Abertawe yn dechrau

BT Image copyright Getty Images

Mae tua 100 o dai a busnesau yn Abertawe wedi cael cysylltiad band eang tra-chyflym arloesol fel rhan o brawf gan gwmni BT.

Mae unigolion a chwmnïau yn natblygiad SA1 y ddinas yn cael treialu technoleg "G.fast" sydd, yn ôl BT, ddeg gwaith yn gyflymach na chysylltiad gwe arferol.

Bydd y cyfnod prawf yn para chwe mis.

"Mae'r treial technegol yn Abertawe yn adeiladu ar ein gwaith yn y labordai," meddai Mike Galvin ar ran BT.

"Bydden ni'n profi sut mae dod â chysylltiad tra-chyflym i fflatiau ac unedau busnes, felly bydd pobl Abertawe yn chwarae rhan eithriadol o bwysig wrth inni fesur perfformiad y dechnoleg," meddai.

Fe groesawodd Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru, y datganiad.

"Mae Cymru eisoes yn dangos y ffordd o ran gwasanaeth band eang tra-chyflym ac rydym yn croesawu'r ffaith fod BT wedi dewis treialu'r dechnoleg band eang newydd yma yn Abertawe," meddai.