Cwpan FA: Enwau o'r het

FA Cup Image copyright Getty Images

Mae'r enwau wedi cael eu tynnu ar gyfer trydedd rownd Cwpan FA Lloegr, ac mae'r tri chlwb o Gymru yn wynebu tasgau amrywiol.

Roedd dau Gymro amlwg yn tynnu'r enwau, gyda John Hartson yn dewis y timau cartref, a'r Cymro sy'n rheoli tîm Merched Lloegr, Mark Sampson, yn dewis yr ymwelwyr.

Roedd enw Casnewydd yn yr het am y rownd yma am y tro cyntaf ers iddyn nhw ddychwelyd i Gynghrair Bêl-droed Lloegr, a'u gwobr am gyrraedd y drydedd rownd yw cael croesawu Blackburn Rovers i Rodney Parade.

Efallai bod llawer o sylw wedi bod ar ddyfodol Garry Monk fel rheolwr Abertawe dros y dyddiau ac wythnosau diwethaf, ond bydd sylw'r Elyrch ar daith i Rydychen i wynebu Oxford United - sydd ar frig Adran 2.

Y trydydd tîm o Gymru yn yr het oedd Caerdydd wrth gwrs, ac fe fyddan nhw gartref yn erbyn enillydd y gêm yn yr ail rownd rhwng Grimsby a Shrewsbury Town.

Bydd gemau'r drydedd rownd yn cael eu cynnal rhwng 8-11 Ionawr.