Cadeirydd Elyrch: 'Rhaid i bethau newid'

Gary Monk

Mae Cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins, wedi dweud bod "rhaid i bethau newid" wrth i rediad gwael yr Elyrch barhau.

Fe wnaeth Mr Jenkins ei sylwadau wrth dderbyn yr OBE am ei wasanaeth i chwaraeon yng Nghymru.

"Ry'n ni gyd yn teimlo fod angen i bethau newid er mwyn gwella pethau cyn gynted â phosib, ac adfer y lefel perfformiad y mae ei hangen er mwyn ennill gemau yn yr Uwch Gynghrair."

Ond gwrthododd Mr Jenkins â gwneud sylw am swydd Gary Monk.

Image caption Gwnaeth Huw Jenkins ei sylwadau wrth dderbyn yr OBE am ei wasanaethau i chwaraeon.

Roedd yna ddyfalu y byddai cyhoeddiad am ei ddyfodol ddydd Llun ar ôl i'r tîm golli gartref yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn o 3-0.

Mae un cwmni betio wedi gwrthod cymryd arian ar fet mai fe fydd y rheolwr nesa yn uwch-gynghrair Lloegr i gael ei ddiswyddo.

Mae yna amheuon a fydd Monk yn dal wrth y llyw pan fydd yr Elyrch yn wynebu Manchester City y penwythnos nesa.

'Dan bwysau mawr'

Mewn cyfweliad ag adran chwaraeon BBC Radio Cymru dywedodd cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson, fod Monk dan bwysau mawr.

"Mae'n anodd ymateb pan y'ch chi ddim yno ac ry'n ni jyst yn gesio, mae pawb yn gesio," meddai.

"Ond, ti'n gwybod, mae'n eitha hawdd gweld bod y chwaraewyr ddim cweit yn perfformio i'r safon ... sai'n gwybod beth yw hynna. Gall hwnna fod yn lot o bethau, gall fod yr ysbryd yn y camp, gall fod achos bod Gary wedi colli un neu ddau o chwaraewyr."

Wrth i'r dyfalu barhau am ddyfodol Monk, mae rhai papurau newydd yn dyfalu y gallai Brendon Rogers fod ar ei ffordd yn ôl i hyfforddi Abertawe.