Cwmni biodechnoleg: 20 swydd newydd

TrakCel Image copyright TrakCel

Bydd 20 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth i gwmni biodechnoleg TrakCel yng Nghaerdydd ehangu.

Mae'r swyddi'n cael eu creu wrth i'r cwmni lansio system olrhain sy'n cael ei defnyddio mewn treialon sy'n ymwneud â therapïau celloedd a meddygaeth atgynhyrchiol.

Bydd 20 o swyddi newydd dros gyfnod o ddwy flynedd ac mae £125,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu'r cwmni i uwchraddio o ymchwil a datblygu i fasnacheiddio.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 15 o bobl, gan gynnwys arbenigwyr biodechnoleg, dylunwyr meddalwedd ac arbenigwyr cymorth technegol.