Gwrthdrawiad A1: Cyhoeddi enw Cymro fu farw

Neville Wyn Griffiths Image copyright Arall
Image caption Roedd Mr Griffiths yn gyfarwyddwr ar gwmni yn Rhuthun.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn o Sir Ddinbych fu farw wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A1 ger Harrogate yn Sir Gogledd Efrog.

Bu farw Neville Wyn Griffiths, 48 oed, o Graigfechan ger Rhuthun, ar ôl i'w gar BMW fod mewn gwrthdrawiad â lori.

Roedd Mr Griffiths yn gyfarwyddwr ar gwmni Direct Plant and Tools yn Stad Ddiwydiannol Lôn Parcwr yn Rhuthun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad nos Wener, 4 Rhagfyr, rhwng Cyffyrdd 47 a 48 ar yr A1.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Image copyright Google
Image caption Roedd y ddamwain ar yr A1 ger Harrogate