Achos o gam-drin rhywiol yn erbyn dynes 82 oed

Llys y Goron Caerdydd Image copyright Lewis Clarke
Image caption Mae'r achos yn Llys y Goron Caerdydd

Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn dynes 82 oed o Gaerdydd sy'n wynebu cyhuddiadau o gam-drin rhyw yn erbyn merch dan 13 oed dros 30 o flynyddoedd yn ôl.

Elizabeth Mulcahy o Landaf sy'n wynebu chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus yn y 1970au a 80au.

Ddydd Mawrth fe welodd y rheithgor fideo o'r ddioddefwraig honedig yn dweud ei bod yn teimlo yn "fudur ac yn ofn".

Honnodd i'r ymosodiad cyntaf ddigwydd pan oedd hi dan 10 oed a pharhau tan oedd hi'n 13 oed.

Mae'r achos yn parhau.