Heriau darlledu mewn iaith leiafrifol

RTVV Valencia, 29 Tachwedd Image copyright AFP

Wedi i Lywodraeth y DU gwtogi eu cyfraniad i gyllid S4C, mae'r sianel yn wynebu heriau ariannol.

Ond nid y sianel Gymraeg yw'r unig ddarlledwr fydd yn gweld gostyngiad yn eu cyllid yn y blynyddoedd nesaf.

Bydd rhaid i'r sianel Aeleg, BBC Alba, oroesi heb gyllid o San Steffan, wedi i'r llywodraeth benderfynu peidio adnewyddu grant o £1m y flwyddyn.

Ond sut mae sefyllfa'r darlledwyr lleiafrifol yn y DU yn cymharu â gweddill Ewrop?

Bu BBC Cymru Fyw'n siarad efo'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Catalaneg

Yng nghymunedau ymreolaethol Sbaen, mae darlledu wedi'i ddatganoli yn rhannol - sy'n golygu fod gan lywodraethau cenhedloedd fel Catalonia a Gwlad y Basg yr hawl i sefydlu eu darlledwyr eu hunain.

Mae hyn yn wahaniaeth amlwg, yn ôl yr Athro Jones.

Image copyright EPA
Image caption Mae'r wasg Gatalaneg yn ffynnu, wrth i'r boblogaeth drafod annibynniaeth

Yng Nghatalonia, mae'r llywodraeth ddatganoledig yn ariannu darlledwr cyhoeddus, y CCMA, sydd â chyllid o 343m Ewro ac yn rhedeg chwe sianel deledu yn yr iaith leol.

Ar ben hynny, mae cyfryngau preifat Catalaneg-eu-hiaith yn ffynnu gan fod "mwy o fuddsoddiad cyhoeddus ar draws pob maes wedi creu cyd-destun ble mae cyfryngau preifat yn gallu byw," yn ôl yr Athro Jones.

Ond efallai bod cymharu â'r Gatalaneg, sydd gan dros 9 miliwn o siaradwyr, ychydig yn optimistaidd. Beth am y Fasgeg, sy'n cael ei siarad gan 714,000 o bobl?

Basgeg

Mae tipyn mwy o blwraliaeth yn y cyfryngau Basgaidd na sydd yng Nghymru, meddai'r Athro Jones.

Mae dwy sianel mewn Basgeg - un gyffredinol gafodd ei sefydlu yn 1982, ac un wedi'i hanelu at blant gafodd ei sefydlu yn 2008, yr un cyfnod ag roedd sôn am sefydlu sianel Gymraeg i blant.

Yn ogystal, mae gan y Basgiaid ddwy orsaf radio genedlaethol yn darlledu mewn Basgeg yn unig, ac ystod eang o gyfryngau ysgrifenedig - papur dyddiol o'r enw Berria a nifer o gyhoeddiadau tebyg i bapurau bro sydd wedi dod at ei gilydd i wasanaethu ardaloedd ehangach ar bapur, radio, teledu a'r we.

Image caption Taleithiau Bizkaia, Gipúzkoa ac Araba sy'n rhan o'r Gymuned Ymreoledig Fasgaidd - ond mae pedair talaith arall yn rhan o diriogaeth draddodiadol y Basgwyr a'u hiaith

Yn ôl yr Athro Jones, mae maint y buddsoddiad cyhoeddus yn allweddol i lwyddiant y wasg Fasgaidd.

"Mae mwy o fuddsoddiad wedi bod yn natblygiad y wasg leol," meddai. "Mae cyllideb hyrwyddo'r Fasgeg cymaint mwy na'r Gymraeg - tua 40 miliwn ewro'r flwyddyn o gymharu â thua £10m i'r Gymraeg.

"Dros y blynyddoedd - dyma'r pedwerydd degawd o fuddsoddiad yn yr iaith - mae'r gwahaniaeth yn dangos."

Valencia

Ond dydi'r sefyllfa ddim yn fêl i gyd yn Sbaen. Yng nghymuned ymreolaethol Valencia, i'r de o Gatalonia, maen nhw'n siarad valencià, tafodiaith Gatalanaidd.

Ddwy flynedd yn ôl, fe gafodd y darlledwr yn y dafodiaith honno, RTVV, ei gau gan lywodraeth geidwadol y rhanbarthol er mwyn arbed arian.

Cafodd 1,700 aelod o staff eu diswyddo a'u gyrru allan o'r stiwdios gan yr heddlu.

Image copyright AFP
Image caption Ar 29 Tachwedd 2013, fe ddarlledodd RTVV drwy'r nos, cyn i'r sianel gael ei chau gan yr awdurdodau

"Rhan o'r broblem yw fod y rhanbarthau yn Sbaen ddim yn cyfateb i diriogaeth hanesyddol ieithoedd," meddai'r Athro Jones, gan gyfeirio at y ffaith fod Catalaneg a'i thafodieithoedd yn cael ei siarad yn Valencia, yn yr Ynysoedd Balearaidd ac mewn rhan o Aragon, tu hwnt i ffiniau Catalonia.

Yng nghyfnod darlledu analog, roedd llywodraeth Catalonia'n rhoi mastiau ar ei ffiniau er mwyn gwasanaethu siaradwyr yr iaith yn y rhanbarthau cyfagos, meddai.

Ond nawr mae rhanbarthau'n gallu blocio signalau digidol i rwystro dylanwad sianeli Catalonia, ac i amddiffyn incwm hysbysebu eu darlledwyr eu hunain.

Ar y funud, felly, ychydig o siaradwyr valencià sy'n gallu gwylio teledu yn un o'r tafodieithoedd Catalaneg.

Ond efallai bod gobaith iddyn nhw - mae'r glymblaid sy'n rheoli'r rhanbarth ers etholiadau Mai 2015 wedi addo ail-agor RTVV, i ddarparu teledu yn y dafodiaith unwaith eto.