Cyfoeth o enwau

Cerdded yn y mynyddoedd
Image caption Taith gerdded cynhadledd Mynyddoedd Pawb o Gwm Cynllwyd i Ddinas Mawddwy

Mae mynyddoedd Cymru yn enwog trwy'r byd ac ymwelwyr lu yn dod yma bob blwyddyn i'w dringo a'u cerdded. Ond mae na rybudd y gallai rhai o'u henwau ddiflannu.

Ar 8 Rhagfyr bydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn ystyried deiseb gafodd ei threfnu gan grŵp Mynyddoedd Pawb.

Mae'r ddeiseb yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i berswadio cyrff a mudiadau i warchod a pharchu'r enwau Cymraeg sydd wedi eu rhoi ar wahanol ardaloedd gan gynnwys ein mynyddoedd.

Mae aelodau yn poeni fod enwau ar dirwedd Cymru yn "diflannu wrth i'r to hŷn ddiflannu".

Angerdd dros draddodiad

Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Mari Gwent er cof am ei thad Llew ap Gwent, cyn brifathro oedd yn byw yn Llanuwchllyn ger y Bala, fu farw ar ôl syrthio yn 2010 wrth fynydda yn Nyffryn Ogwen.

"Roedd dad yn teimlo'n angerddol iawn dros hybu'r iaith Gymraeg drwy enwau lleoedd a hanes a chwedloniaeth Cymru," meddai Mari.

"Fe wnaeth wneud cwrs arwain mynydd ychydig flynyddoedd yn ôl a chael gymaint o siom fod 'na ddim math o hyfforddiant am yr ardal roedd yr hyfforddiant yn digwydd ynddo fo. Dim hyfforddiant am yr enwau lleol, am yr hanes a'r llwybrau - mi fasai'r cwrs wedi gallu cael ei gynnal yn unrhyw le.

"Roedd y diffyg addysgu yma yn ei boeni fo ac mi ddaru ddechrau baratoi cyflwyniadau i bobl gael eu hyfforddi.

"Ro'n i'n teimlo bod eisiau parhau efo hyn wedi colli dad - parhau efo'i angerdd a'r dyhead oedd ganddo fo.

"Daeth criw at ei gilydd - o Barc Cenedlaethol Eryri, Antur Stiniog, Menter Iaith Conwy, Clwb Mynydda Cymru, Cynefin a Chymuned, Gwersyll yr Urdd Glan-llyn a'r Gymdeithas Enwau Lleoedd."

Cynhaliodd y grŵp ei gynhadledd gyntaf ym mis Tachwedd 2013 a chytuno "fod angen i enwau, hanes a chwedloniaeth ein tirwedd fod ar gael yn hawdd i bawb, yn bobl leol a thwristiaid, er budd yr economi leol, ac yn fwy na dim er mwyn dyfodol yr iaith," meddai Mari.

Image copyright Mari Gwent
Image caption Roedd Llew ap Gwent yn 'angerddol' dros hybu'r Gymraeg drwy enwau lleoedd a hanes.

Cadw'r hen enwau

Mae Awdurdod Parc CenedlaethoL Eryri hefyd yn cefnogi gwarchod yr hen enwau Cymraeg. Un o wardeniaid y parc ydi Rhys ap Gwynn:

"Mae 'na gymaint o bobl yn dod i gerdded yn Eryri ac yn cael y profiad o gerdded ond maen nhw'n methu y peth ychwanegol yna, y cefndir diwylliannol sydd ynghlwm â'r ardal," meddai.

"Mae'n waith pwysig tu hwnt achos mae'r enwau yma'n diflannu yn sydyn iawn fel mae'r to hŷn yn diflannu".

Maen nhw wedi gwneud llawer o waith yng Nghraig Cywarch ger Dinas Mawddwy ac ar fynydd Cader Idris.

"Mae enwau planhigion yn gyffredin mewn hen enwau," meddai Rhys. "Mae 'cywarch' ei hun yn enw amlwg, sef 'hemp' yn Saesneg - roedd yr hen raffau ers talwm yn cael eu gwneud o gywarch. Mae Bryn Llin yn un arall.

"Ac mae 'na sawl enw fel Cae Ceirch - maen nhw'n dangos hen batrwm o amaethu ers talwm, a'r hen gymdeithas."


Ystyron rhai o'r enwau sydd wedi eu casglu yn ardal Dyffryn Ogwen a Dolgellau:

•Pen yr Ole Wen - nid 'golau' ond 'goleddf' ('llethr' neu 'lechwedd') ydy ystyr 'ole'. Felly copa yr 'oleddf wen', sef copa'r mynydd.

•Pen yr Helgi Ddu - roedd defnyddio helgwn, neu gŵn hela, yn gyffredin ac yn ôl chwedloniaeth, dim ond helgi du sy'n gallu dal gwrach sydd wedi'i throi yn ysgyfarnog. Mae'r mynydd yma'n agos iawn at fynydd o'r enw Pen Llithrig y Wrach.

•Cwm Ffynnon Llugwy - mae'r gair 'llugwy' yn dod o'r un tarddiad â 'goleuni', o'r gair Lladin 'leuk'. Credir mai Lleu oedd duw goleuni a thywyllwch y Celtiaid a bod y dŵr yma'n gysygredig.

•Rhos Bodesi - tir mynyddig Bodesi, sef cartref rhywun o'r enw Esi neu Esaiah.

•Llwybr Pilyn Pwn - un o'r hen lwybrau ar Gader Idris y byddai pobl yn ei ddefnyddio ers talwm i ddod a'u nwyddau i'w gwerthu yn Nolgellau. Ystyr 'pwn' ydy 'pwysau' a 'pilyn' ydy'r gair Cymraeg am 'pillion', sef y sach fyddai wedi mynd o boptu cefn y ceffyl i ddal blawd neu fenyn.

•Carreg y Gŵr Drwg - yn ôl y stori leol roedd pobl ifanc yn hel wrth y garreg ar ddydd Sul i ganu a dawnsio ers talwm, cyn cyfnod y diwygiad. Ond un Sul y Pasg, daeth y diafol i lawr ar gefn asyn a sgrialodd pawb. Gadawodd yr asyn ôl ei garn yn y graig.

•Ffridd Eurych - 'eurych' ydy'r hen air Gymraeg am aur.

O waith Bedwyr ap Gwynn ar wefan Enwau Cymru a Rhys ap Gwynn o Barc Cenedlaethol Eryri.

(Addasiad o erthygl gafodd ei chyhoeddi gan Cymru Fyw ym mis Chwefror 2015)

Image caption Mae hi'n bwysig gwarchod enwau Cymraeg mynyddoedd Eryri yn ôl Mynyddoedd Pawb

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.