Adweithydd niwclear bychan i Drawsfynydd?

Trawsfynydd
Image caption Un o hen adweithyddion atomfa Trawsfynydd

Bum mlynedd ar hugain ers i atomfa Trawsfynydd gynhyrchu trydan, mae dau adroddiad wedi awgrymu y gallai fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer math newydd o adweithydd niwlcear bychan.

Mae llywodraeth San Steffan am fuddsoddi arian enfawr i ymchwilio i adweithyddion o'r fath. Fel rhan o gynllun gwerth £250m i ymchwil niwclear, mae'r llywodraeth am drefnu cystadleuaeth i ddod o hyd i'r cynllun gorau ar gyfer adweithyddion bychain.

Mae ardal Trawsfynydd wedi ei ddynodi'n barth menter yn sgîl y swyddi sy'n raddol ddiflannu o'r atomfa. Mae cadeirydd bwrdd y parth menter, John Idris Jones, sydd â blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant niwclear, wedi croesawu cyhoeddiad y llywodraeth.

Dywedodd wrth raglen Newyddion 9 BBC Cymru: "Dwi'n meddwl bod hyn yn newyddion da iawn. Dwi'n meddwl bod y llywodraeth yn Llundain wedi sylweddoli eu bod nhw angen gwahanol ddulliau o gynhyrchu ynni a thrydan carbon isel.

"Dwi'n meddwl fod 'na siawns go lew o hyn yn digwydd. Os edrychwn ni ar be sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd mae 'na dipyn o waith ymchwil yn mynd yn ei flaen yn fano, ac mae na filiynau ar filiynau yn cael eu gwario gan gwmni o'r enw Nuscale yn gwneud gwaith datblygu ac ati ar adweithydd bychan yno."

Image caption Mae John Idris Jones o blaid y cynllun

Er bod gogledd Cymru'n gyfarwydd â'r diwydiant niwclear, dydi'r math yma o dechnoleg ddim wedi ei brofi yn y wlad yma, ac mae hynny'n bryder i bobl fel Deilwen Evans o'r mudiad gwrth-niwclear Cadno.

"Tydan ni ddim eisiau gweld unrhyw beth niwclear yn dwad eto a dwi'n teimlo bod y syniad newydd yma eto yn arbrofol", meddai.

"Mae gogledd Cymru, yn enwedig y gogledd orllewin, yn cael ei llwgu o swyddi ac maen nhw'n gorfod cymryd beth bynnag sy'n dwad a dwi ofn mai arbrawf fydd hwn eto onibai bo ni'n gweld bod rhain wedi cael eu gweithredu'n ddiogel."

'Etifeddiaeth'

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ydi'r aelod Cynulliad lleol, ac mae o o blaid y cynllun, er fod ei blaid, Plaid Cymru, yn gwrthwynebu'r syniad o ynni niwclear mewn egwyddor, Dywedodd wrth Newyddion 9:

"Does gen i ddim diddordeb mewn trafodaethau pleidiol gwleidyddol. Beth sydd gen i ddiddordeb ynddo fo ydi sicrhau yr etifeddiaeth o beirianeg yn y diwydiant niwclear ag yn y diwydiant ynni'n gyffredinol sydd wedi bod yn rhan o'n bywyd ni yn y gogledd ar hyd y blynyddoedd".

Hyd yn oed os bydd y cynllun yn ennill cefnogaeth mae'n debyg o gymryd rhwng 10 a 15 mlynedd cyn y bydd yr adweithydd bychan cyntaf yn cynhyrchu trydan yng ngwledydd Prydain.

Image caption Yr Arglwydd Elis-Thomas, aelod lleol y Cynulliad