Setliad 'gwell na'r disgwyl' i gynghorau

arian Image copyright PA

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi cyhoeddi bod awdurdodau lleol yn mynd i gael mwy na £4 biliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2016-17.

Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu i'r 22 awdurdod, gan ganiatáu i gynghorau bennu eu cyllidebau a chyfraddau treth cyngor.

Wrth gyhoeddi'r Grant Cynnal Refeniw dros dro, dywedodd y Gweinidog:

"Rwy'n bwriadu gosod cyllid refeniw Llywodraeth Leol ar lefel o £4.099 biliwn, sydd 1.4%, neu £57 miliwn, yn llai nag yn 2015 16. Mae hwn yn setliad tipyn gwell nag oedd Llywodraeth Leol yn ei ddisgwyl ac mae'n newyddion da i wasanaethau lleol yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi diogelu'r cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru gydol tymor y Cynulliad hwn. O ganlyniad i'r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU ers 2010-11, mae gwariant ar wasanaethau lleol yn Lloegr wedi lleihau tua 10% mewn termau arian parod, ond mae wedi cynyddu 2.5% yng Nghymru.

"Wrth osod lefelau'r dreth gyngor ar gyfer 2016-17, rwy'n gofyn i Awdurdodau Lleol feddwl o ddifrif am yr heriau cyllid sy'n eu hwynebu ac i roi'r un ystyriaeth hefyd i'r baich ariannol sydd ar aelwydydd."

Cyllidebau Cynghorau

Pwy sy'n ennill a cholli ers y setliad diwethaf?

-4.1%

yw'r toriad mwyaf, a hynny i Gyngor Powys

-0.1%

yw'r toriad lleiaf, a hynny i Gyngor Caerdydd

  • -1.4% yw'r toriad cyfartalog i'r holl gynghorau

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, a oedd yn cynnwys hwb ariannol ar gyfer y gwasanaeth iechyd cyn yr etholiad, ond yn dweud bod toriadau ar y gweill ar gyfer y cynghorau lleol.

Bydd y GIG yn cael £278 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf, a hynny yn ychwanegol i'r £6 biliwn maent eisoes yn ei dderbyn.

Ar y llaw arall, bydd cyllid llywodraeth leol yn crebachu tua 2%.

Mae hynny'n llai na'r 4% mae'r Adran Llywodraeth Leol yn wynebu eleni.

Fe fydd union effaith y toriad o 2% ar gynghorau unigol yn cael ei ddatgelu maes o law gan Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Leighton Andrews.

Image caption Dywedodd Leighton Andrews fod y setliad yn un gwell nag yr oedd llywodraeth leol yn ei ddisgwyl.

Fformiwla arbennig

Bydd setliad pob cyngor yn cael ei benderfynu gan fformiwla sy'n cymryd i ystyriaeth ffactorau megis y nifer o ddisgyblion ysgol, proffil oedran a maint y boblogaeth leol.

Pwysleisiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) y pwysigrwydd o ofal cymdeithasol, sy'n cael ei redeg gan gynghorau, fel ffordd o leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd dirprwy arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Aaron Shotton:

"Rydym wedi bod yn glir fod angen ailysgrifennu'r llyfr rheolau ar sut mae ein cynghorau yn cael eu hariannu os ydym am osgoi sefyllfa debyg i'r un yn Lloegr, lle mae gwasanaethau cyhoeddus lleol wedi cael eu torri i'r asgwrn, ac mae nifer o gynghorau yn wynebu'r posibilrwydd real iawn o fod yn methu cwrdd hyd yn oed eu dyletswyddau statudol sylfaenol."

Wrth gyhoeddi ei chyllideb ddrafft, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, fod llywodraeth Cymru yn wynebu "setliad heriol".

Gostyngiad llai na'r blynyddoedd diwethaf

Disgwylir i gyllideb Cymru grebachu 3.6% mewn termau real dros y pum mlynedd nesaf, ond mae hynny'n ostyngiad llai nag yn y blynyddoedd blaenorol yn sgil ymgyrch llymder llywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Nick Ramsay AC, ni fydd y gwariant ychwanegol ar iechyd yn gwneud yn iawn am y toriadau blaenorol i gyllid y GIG.

Disgrifiodd Plaid Cymru y gyllideb fel "tafliad olaf y dis gwleidyddol" gan Lafur cyn etholiad y cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i'r gyllideb ddrafft gael ei chymeradwyo yn y Flwyddyn Newydd, diolch i gytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Amlygodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black fod £1,150, ychwanegol ar gael ar gyfer pob disgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi ei sicrhau fel rhan o'r fargen.

Straeon perthnasol