Gwariant ar y Gymraeg: Angen 'cyfarfod brys'

Cymraeg Image copyright Thinkstock

Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith yn gofyn am gyfarfod brys gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones i gael esboniad am fwriad y Llywodraeth i dorri gwariant ar y Gymraeg.

Daw'r cais yn dilyn cyllideb ddrafft y Llywodraeth sy'n amlinellu'r bwriad i dorri £1.6 miliwn o gyllid y Gymraeg, ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol yr iaith, gan roi £1.2m i gefnogi'r Gymraeg yn y gymuned.

Yn ôl Dyfodol i'r Iaith, mae'r toriadau (o tua £400,000) yn 'tanseilio'n llwyr hyder yn ymrwymiad y Llywodraeth i'r Gymraeg, gan fod yr arian yma'n debygol o effeithio ar fentrau a phrosiectau sy'n gwneud gwir wahaniaeth i'r iaith'.

'Ymrwymiad'

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith: "Ni allwn gyrraedd y nod o Gymru ddwyieithog heb ymrwymiad brwd gan y Llywodraeth.

Mae angen rhaglenni hyrwyddo eang i hybu defnydd o'r iaith ac i gynyddu siaradwyr. Heb ddiogelu'r elfen sylfaenol hon, daw unrhyw fesur rheolaethol, megis y safonau iaith yn gynyddol ddibwys.

"Byddwn yn pwyso am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog cyn gynted â phosib i gael eglurhad o'r sefyllfa ac i bwysleisio pwysigrwydd allweddol y cyllid hwn i dwf y Gymraeg."

Prosiectau penodol

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi mynegi pryder am doriadau i'r Gymraeg yng nghyllideb drafft Llywodraeth Cymru.

Mae'r mudiad wedi dweud y dylai Llywodraeth nesaf Cymru wario o leiaf 1% o'r gyllideb ar brosiectau penodol er mwyn hybu'r Gymraeg, sef y ffigwr sy'n cael ei wario yng Ngwlad y Basg ar hyn o bryd meddai'r gymdeithas.

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni wedi cysylltu â'r Llywodraeth i holi beth yw ystyr y ffigyrau sy'n cael eu gosod allan yn y gyllideb. Yn sicr, gan ystyried cyflwr y Gymraeg, nid oes modd cyfiawnhau toriadau i'r cyllidebau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.

"Mae Gwlad y Basg yn gwario sawl gwaith mwy ar eu hiaith nhw, sy'n rhan o'r rheswm ei bod yn gweld cynnydd yn ei defnydd. Mae angen i bawb gydweithio i wrthwynebu llymder sydd mor niweidiol i'r Gymraeg ac i'n cymunedau'n fwy cyffredinol."

Image caption Jamie Bevan o Gymdeithas yr Iaith

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei thorri'n sylweddol ers 2010, gyda thoriadau ychwanegol i ddilyn yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i Adolygiad Gwariant Llywodraeth Prydain.

"Rydym wedi gwneud toriadau anodd mewn nifer o feysydd er mwyn blaenoriaethu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu fwyaf arnyn nhw, gan wneud cymaint ag y gallwn i leihau effeithiau'r toriadau ar ein cyllid mewn meysydd eraill."

"Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau dyfodol yr iaith ac wedi cyfyngu ar doriadau i gyllideb gyfan yr iaith Gymraeg i 5.9% yn 2016-17 gan roi £1.2m i gefnogi'r Gymraeg yn y gymuned.

Ychwanegodd: "Rydym yn blaenoriaethu pob gweithgaredd er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg. Nid yw arian yn unig yn sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu, ac fe fyddwn yn cydweithio'n agos gyda sefydliadau partneriaethol i sicrhau seiliau cadarn i'r iaith yn y dyfodol."

Gweithgor newydd

Yn y cyfamser, mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi sefydlu gweithgor i ystyried lle'r iaith o fewn awdurdodau lleol.

Rhodri Glyn Thomas AC fydd yn arwain y gweithgor, fydd yn edrych ar ffyrdd o sicrhau fod arferion da o ran defnydd o'r Gymraeg fel iaith weinyddol yn parhau wrth i'r llywodraeth ad-drefnu llywodraeth leol.

Mi fydd Mr Thomas a'i grŵp yn gwneud argymhellion cyn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016.