Colli 50 o swyddi yng Nghaernarfon

Pont
Image caption Roedd Mulcair yn gyfrifol am ran o'r gwaith o adnewyddu Pont Briwet ym Mhenrhyndeudraeth yn gynharach eleni

Mae cwmni Mulcair yng Nghaernarfon wedi cadarnhau ei fod yn cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, ac fe fydd 50 o weithwyr yn colli eu gwaith o ganlyniad.

Mae'r cwmni, sydd yn gwneud gwaith peirianneg sifil, wedi ei leoli ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yn y dref.

Cafodd staff y cwmni glywed y newyddion am y diswyddiadau ddydd Mawrth.

Nid yw'r cwmni am wneud unrhyw sylw am y datblygiad diweddaraf.

Image copyright Mulcair