Cymru i 'ail-gipio' Roald Dahl yn 2016

Roald Dahl Image copyright Roald Dahl Estate
Image caption Roald Dahl

Roedd Roald Dahl yn storïwr heb ei ail. Mae gwerthiant ei lyfrau - mwy na 200 miliwn hyd yma - yn ffordd amlwg o fesur ei lwyddiant. Ond mae effaith Dahl yn ddyfnach, gan iddo ysbrydoli dychymyg plant ac oedolion, ac annog amrywiaeth o ffilmiau, sioeau llwyfan, nwyddau di-ri a hyd yn oed bariau siocled.

Cymeriadau Dahl sy'n dominyddu unrhyw drafodaeth am yr awdur - Willy Wonka, y BFG, Matilda. Ond beth am y dyn ei hun, yr un wnaeth greu byd llenyddol sydd wedi dod â chymaint o bleser i genedlaethau o blant a'u rhieni?

Image copyright Quentin Blake
Image caption Rhai o gymeriadau Roald Dahl gan yr artist Quentin Blake

Bydd cryn ymdrech i hybu rôl Cymru wrth feithrin Roald Dahl pan mae'r byd yn nodi canmlwyddiant ei eni yn 2016. Tra iddo gael ei fagu yng Nghaerdydd, mae ei gefndir Norwyaidd a'i fywyd fel oedolyn yn Lloegr wedi golygu nad yw Cymru bob tro wedi gwneud y gorau o'r cysylltiad.

"Dyw e ddim wedi ei ddefnyddio'n ddigon aml yng Nghaerdydd fel eicon diwylliannol. Mae'n gyfle i ail-gipio Roald Dahl a'i hawlio fel un ohonom ni," medd Graeme Farrow, cyfarwyddwr artistig Canolfan Mileniwm Cymru, sydd wedi ymdrechu i greu dathliad penblwydd Cymreig i nodi'r canmlwyddiant.

"Mae Roald Dahl yn fab i Gaerdydd, ac mae wedi'i gysylltu'n arbennig â'r bae. Roedd ei dad yn gweithio yn y Gyfnewidfa Lo, tu allan i'n adeilad ni mae Plas Roald Dahl, tra bo'r eglwys Norwyaidd rownd y gornel.

"Felly, o'n i jyst yn meddwl, sut allwn ni beidio dathlu canmlwyddiant un o feibion enwocaf Caerdydd?"

Perfformiad digynsail

Fel canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014, mae'r digwyddiadau i nodi 100 mlynedd ers geni Roald Dahl yn cynnwys y celfyddydau, ysgolion a'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Ond pen-blwydd Dahl ym mis Medi yw pryd mae Caerdydd yn bwriadu cynnal y dathliad mwyaf o'i fywyd a'i waith, gyda pherfformiad digynsail ar strydoedd y ddinas ac yn ei adeiladau mwyaf adnabyddus.

Image caption Cafodd Roald Dahl ei fedyddio yn yr eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd

Mae 'Dinas yr Annisgwyl' yn cael ei lwyfannu gan Canolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales dan gyfarwyddiad Nigel Jamieson, cyfarwyddwr theatr o Awstralia gyda phroffil rhyngwladol. Mae ei gomisiynau blaenorol yn cynnwys seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Sydney a'r dathliadau a ddechreuodd blwyddyn Lerpwl fel Dinas Diwylliant Ewrop.

Mae'n addo "tri diwrnod rhyfeddol" ym mis Medi pan fydd Caerdydd yn dod yn ganolbwynt i ddathliadau canmlwyddiant Roald Dahl. Bydd cast o filoedd o actorion, cantorion, dawnswyr ac aelodau cyffredin o'r cyhoedd yn cymryd rhan mewn digwyddiad a ysbrydolwyd gan ddychymyg anhygoel Dahl.

"Fe fydd llawer o gymeriadau Dahl yn bresennol, ond bydd rhythm y ddinas - a deddfau ffiseg - yn newid er mwyn i ni ddangos ychydig o ddychymyg Dahl. Bydd Caerdydd yn troi'n 'ddinas yr annisgwyl', a bydd bywyd go iawn yn llawn pethau annisgwyl."

'Ymateb i'r her'

Nid yw Jamieson am ddatgelu gormod am yr hyn mae wedi ei gynllunio, ond bydd cymeriadau a chreadigaethau o lyfrau Roald Dahl yn chwarae rhan ganolog. Mae'n gobeithio recriwtio "brwdfrydwyr" i fod yn rhan o'r sioe, gydag "ystod eang o sgiliau a hudoliaethau" yn cael eu harddangos.

Mae'r cynllunio eisoes wedi dechrau, a phrofiad Jamieson o weithio gyda grwpiau mawr o berfformwyr sy'n golygu ei fod yn eithaf hamddenol am ddod â miloedd o bobl at ei gilydd yng nghanol Caerdydd.

"Mae'n wych i weithio gyda gymaint o bobl. Y mwyaf yw maint y digwyddiad a'r achlysur, y mwyaf maen nhw'w llwyddo i ymateb i'r her."

Dinas yr Annisgwyl fydd prif ddigwyddiad y flwyddyn, ac yn cael ei gynnal dros benwythnos 15-17 Medi.

'Gwlad y Gân'

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal arddangosfa yn ail hanner 2016 fydd yn cynnwys arteffactau o fywyd personol Dahl. Mae'r Ganolfan hefyd yn gweithio gydag elusen Aloud i lwyfannu Gwlad y Gân, lle bydd plant o ysgolion ledled Cymru yn dysgu caneuon a ysbrydolwyd gan Roald Dahl cyn perfformio mewn cyfres o gyngherddau ym Mae Caerdydd ym Mehefin 2016.

Image copyright PA

Llenyddiaeth Cymru, sy'n hyrwyddo darllen ac ysgrifennu, sy'n dosbarthu arian i sefydliadau sy'n gobeithio llwyfannu eu digwyddiadau eu hunain i ddathlu'r canmlwyddiant.

Dywedodd y prif weithredwr, Lleucu Siencyn, ei bod yn chwilio am ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar y "gwneuthurwyr drygioni, meistri'r dyfeisio, a hyrwyddwyr daioni."

"Yr her yw i ddod â Dahl yn ôl i Gymru. Mae'n un ohonom ni, ond dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli hynny. Felly gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn dod â Dahl yn ôl i Gymru, ac ein bod ni'n ei wneud hi'n flwyddyn i gofio," meddai.

Roedd Roald Dahl wedi glynu at ei gysylltiadau â Chaerdydd yn hir ar ôl gadael Cymru. Yn 2016 mae gwlad ei enedigaeth yn gobeithio talu teyrnged gyda blwyddyn anhygoel o ddathliadau.