Cyllideb: Toriadau llymach i gynghorau gwledig

Cynghorau

Cynghorau mewn siroedd gwledig sy'n wynebu'r toriadau mwyaf yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gyllid awdurdodau lleol.

Mae'r pum sir sydd wedi'u taro galetaf - Powys, Ceredigion, Sir Fynwy, Sir Benfro a Chonwy - mewn ardaloedd gwledig.

Powys sydd wedi derbyn y cwtogiad mwyaf, sef 4%.

Ar y pegwn arall mae Cyngor Dinas Caerdydd, sy'n wynebu toriad o 0.1% yn unig.

Yn ôl y llywodraeth, mae'r setliad "dipyn gwell na'r disgwyl."

Ond mae'r Ceidwadwyr yn dweud fod y cyhoeddiad yn dangos fod y llywodraeth Lafur yn "llywodraeth o'r ddinas ar gyfer y ddinas."

'Annheg'

Bydd cyfanswm o dros £4 biliwn yn cael ei rannu rhwng y 22 awdurdod lleol ar gyfer 2016-17, gostyngiad o 1.4% o'r flwyddyn gynt.

Wrth gyhoeddi'r setliad, dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, fod y cyllid newydd "dipyn gwell na'r disgwyl" ac yn "newyddion da" i gynghorau.

Dywedodd Janet Finch-Saunders, gweinidog cysgodol llywodraeth leol y Torïaid, fod toriadau'n "annheg" ar gefn gwlad.

Mae cwtogiad o 4% i gyllid Powys, 3.4% i Geredigion, a 3.1% i Sir Fynwy.

"Dyw hi ddim syndod fod y llywodraeth Lafur yma wedi taro cymunedau gwledig yn galetach," meddai.

"Llywodraeth o'r ddinas ar gyfer y ddinas ydi hi, heb yr un aelod llawn o'r cabinet yn cynrychioli ardal wledig o Gymru."

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Daniel Davies

Mae hi'n ymddangos mai cynghorau gwledig gafodd eu taro galetaf yn y datganiad ddoe.

Ond mae'r darlun yn wahanol os edrychwch chi ar faint mae pob cyngor yn ei dderbyn y pen. Yn yr achos yma, mae Powys yn cael mwy o arian na Chaerdydd - £1,252 o'i gymharu â £1,162.

Mi allwch chi ddychmygu'r rheswm am hynny - os ydi'ch cymydog agosaf filltiroedd i ffwrdd, mae lorïau lludw angen mwy o danwydd nag y buasen nhw ar stad mewn dinas.

Mae'r arian yn cael ei ddosbarthu yn ôl fformiwla - fformiwla y mae awdurdodau lleol wedi cytuno iddi, yn ôl gweinidogion.

Mae'r fformiwla'n ddibynnol ar dros 50 o ffactorau, gan gynnwys pa mor hir yw'r lonydd, nifer yr ysgolion a pha mor dlawd neu gyfoethog yw'r trigolion.

Ymysg y ffactorau pwysicaf mae maint y boblogaeth - mae tua 25% o'r fformiwla'n dibynnu ar hyn. Mae'r pellter mae pobl yn byw oddi wrth ei gilydd hefyd yn ffactor - ond mae'n ffactor llai, sy'n cyfri am 6% yn unig.

Dyna pam fod toriad Caerdydd ar y cyfan yn llai nag un Powys.

Cyllidebau Cynghorau

Pwy sy'n ennill a cholli ers y setliad diwethaf?

-4.1%

yw'r toriad mwyaf, a hynny i Gyngor Powys

-0.1%

yw'r toriad lleiaf, a hynny i Gyngor Caerdydd

  • -1.4% yw'r toriad cyfartalog i'r holl gynghorau

O edrych ar wariant y pen, os yw'r system yn ffafrio unrhyw ardal yn arbennig, cymoedd y de yw'r ardal honno.

Mae'r pum sir sy'n cael y mwyaf o arian y pen yn y cymoedd - Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili.

Mae Caerdydd yn 21ain - ail o'r gwaelod - a Sir Fynwy yn 22ain.

Felly efallai fod pethau ychydig yn fwy cymhleth na'r hyn mae'r Torïaid yn ei honni - fod Llafur yn rhedeg "llywodraeth o'r ddinas ar gyfer y ddinas."

Ond mi fydd y beirniaid yn sicr wedi sylwi fod y pum sir o'r cymoedd uchod hefyd yn gadarnleoedd i'r Blaid Lafur.

'Taro'n galed'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y Cynghorydd Huw George o Sir Benfro'n beirniadu toriadau i gynghorau gwledig

Fe glywodd Cyngor Sir Penfro y bydd eu cyllid nhw'n cael ei gwtogi o 2.8%.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Jamie Adams: "Fel awdurdod lleol gwledig, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cael ein taro'n neilltuol o galed.

"Dim ond tri chyngor sydd wedi cael setliadau gwaeth na Chyngor Sir Penfro.

"Rwy'n edrych ymlaen at drafod gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r annhegwch."

Ond fe ddywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mai dyma'r setliad "gorau posib yn yr amgylchiadau."

Dywedodd arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Bob Wellington o Dorfaen: "Mae hi'n amser caled, ond mae'r setliad yn dangos fod gweinidogion Llywodraeth Cymru'n gwrando ar arweinwyr llywodraeth leol ac yn gweithio gyda ni i amddiffyn gwasanaethau rhag oblygiadau gwaethaf llymder.

Ychwanegodd eu bod yn "gwerthfawrogi" fod y setliad yn diogelu cyllid cynghorau yn rhannol a'u bod yn "cydnabod nad oedd hi'n hawdd i Lywodraeth Cymru pan fo'u cyllid hwythau'n cael ei effeithio gan bolisïau llymder Llywodraeth y DU."