Linda Brown: Codi llen ar yrfa theatrig

Linda Brown
Image caption Linda Brown yn swyddfa Bara Caws yng Nghaernarfon

Mae Linda Brown o Fethesda wedi bod yn gweithio ym myd y theatr fel gweinyddwraig am bron i 40 mlynedd - a'r rhan fwyaf o'r blynyddoedd hynny gyda chwmni Theatr Bara Caws yng Nghaernarfon. Mewn cyfnod o gynni i'r celfyddydau, ac ar drothwy penblwydd go arbennig i gwmni Bara Caws, aeth Cymru Fyw i swyddfa'r cwmni i holi Linda Brown am ei hatgofion, ac am ddyfodol y cwmni mewn cyfnod ariannol anodd i fyd y theatr.

Lle dechreuoch chi eich gyrfa yn y theatr?

Hefo Cwmni Theatr Cymru nes i ddechrau - roedden nhw'n chwilio am staff ar gyfer Theatr Gwynedd. Roedd y theatr yn agor o'r newydd ac roedden nhw'n chwilio am staff a fy nheitl i oedd Ysgrifenyddes y Theatr. Ar y cychwyn cyntaf roeddwn i'n gwneud pob dim - roeddwn i'n gwneud y swyddfa docynnau, gwneud y marchnata, gwaith gweinyddu - bob dim a dweud y gwir ond llnau!

Dwi'n cofio mynd at Theatr Bara Caws yn yr wythnos gyntaf, ac mi wnes i grio bob dydd! Roeddwn i'n colli pawb yn Theatr Gwynedd.

Yn Theatr Bara Caws fi oedd yn chwilio am grantiau a threfnu teithiau. Da ni'n rhannu'r gwaith rwan ond ar y cychwyn 'dwn i ddim sut oeddan ni'n ei wneud o. Doedd ganddo' ni ddim hyd yn oed ffotocopïwr na dim byd fel yna. Roedd yn rhaid i mi wneud y sgript i gyd ar stencils a mynd â nhw lawr i'r Coleg Normal i ddefnyddio eu peiriant nhw, a'r blincin' inc yn mynd i bob man.

Rhyw 23 mlynedd yn ôl ga'thon ni grant i chwilio am gartref newydd, a natho' ni symud i fan hyn i Cibyn, Caernarfon.

Image copyright Derec Owen
Image caption Linda ar ddechrau ei gyrfa

Mewn cyfnod o doriadau ym maes y celfyddydau,pa mor anodd ydi dod o hyd i grantiau, ac oes 'na elfen o ansicrwydd parhaol?

Dwi'n teimlo fod o'n fwy o waith caled dod o hyd i grantiau rŵan achos mae'n anodd - mae'n anodd ofnadwy - hefo'r cynghorau sir yn torri'n ôl, mae'r Cyngor Celfyddydau wedi rhoi warning i ni a dweud "mae'ch grantiau chi'n mynd i gael eu cwtogi", ac mae rhai cwmnïau'n mynd i fynd. Felly mae'r ofn yna, a meddwl ella fydda' ni ddim yma adeg yma flwyddyn nesaf - fydda ni'n un o'r rhai yna fydd yn gorfod mynd? 'Da ni ddim yn gwybod be' fydd ein tynged ni a dweud y gwir, so mae o'n hair raising.

Dwi'm yn lecio dweud hyn ond dwi'n cofio yn amser Thatcher dwi'n siŵr fod ganddo' ni fwy o bres na sydd ganddo' ni rŵan. Mae yn anodd. Mae ysbytai ac yn y blaen yn crafu am arian. Mae'r arian yn mynd i fynd yn gyntaf iddyn nhw tydi? Ac mae'r theatr yn mynd i gael rwbath rwbath mewn ffordd. Ond 'chydig o bobl sy'n sylweddoli pa mor bwysig ydi'r theatr i iechyd. Mae'n ofnadwy o bwysig mewn bob math o ffyrdd dwi'n meddwl - i'r galon, i'r ymenydd, i bob dim.

Ydi llwyddiant Bara Caws wedi dod o gynnig rhywbeth gwahanol i'r gynulleidfa dros y blynyddoedd?

Dwi'n meddwl bod llwyddiant Bara Caws wedi dod oherwydd y gwahanol fath o gynhyrchiadau mewn blwyddyn. Mae gen ti dy sioe glybiau, mae gen ti bethau ysgafnach, ac hefyd mae gen ti bethau mwy dyrys a lot mwy o feddwl wedi mynd i mewn iddyn nhw. Mae ganddo' ni'n dilynwyr, mae ganddo' ni ein 'brand', ond dwi'n gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn dod i weld Bara Caws erbyn hyn.

'Da chi hefyd wedi actio mewn cynyrchiadau eich hun yn achlysurol?

Mi fues i'n perthyn i Gwmni Drama Bangor flynyddoedd maith yn ôl, a hefyd i Gwmni'r Llechen Las yn Bethesda, a lot o waith teledu. Dwi hefyd wedi cael y fraint o fod ar y llwyfan hefo Cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru gyda Ruth Madoc.

Ar ôl rhyw bythefnos o wneud y gwaith llwyfan 'walk on' yma roedd yn rhaid i mi roi'r gorau iddi wedyn achos 'doedd gen i ddim cerdyn Equity!

Image copyright Derec Owen
Image caption Linda Brown (chwith) gyda wynebau enwog un o sioeau Bara Caws yn yr 80au

Ydi Bara Caws yn mynd ati'n fwriadol i fod yn ddadleuol, neu ai ni'r Cymry sydd ychydig yn groen denau?

'Da ni yn mynd allan hefo neges bob amser, ac i dynnu coes. Mae 'na rai pobl yn groen denau ond dim lot, ac mae pawb yn cymryd yr hwyl. Fasa chi'n synnu y math o bobl sy'n dod i weld y sioe glybiau. Fe wnawn nhw deithio draws gwlad i weld y sioe - falle bod nhw ddim isho cael eu gweld yn eu cymuned eu hun yn dod i weld y sioe glybiau - ond mi ddaw pobl o bell ac mae hi'n boblogaidd iawn iawn.

Un tro fe wnaeth 'na rywun ffonio i ddweud ei fod o'n gyfreithiwr ar ran so and so - ac roeddwn i'n meddwl 'dwi'n gwybod pwy di hwn - Twm Miallt yn tynnu 'nghoes i ydi hwn'. Nes i ddweud rhyw air bach hyll wrtho fo deud 'paid â chwarae o gwmpas'! Ond dim fo oedd o - ond cyfreithiwr go iawn y dyn 'ma oedd o, ac eisiau gweld y sgript. Roedd 'na rywun wedi cwyno ac eisiau gweld y sgript - bod ei enw fo'n cael ei ddefnyddio yn ein sioeau glybiau ni ac fuo rhaid i fi yrru'r sgript iddo fo. 'Na i byth angofio - roeddwn i'n teimlo'n hun yn mynd yn goch fel beetroot!

Dro arall roedd un o fy nghydweithwyr wedi gwneud poster ac roedd o wedi ypsetio rhywun yn arbennig, ac roeddan ni'n cael ein harian gan y degwm bryd hynny, a dim gan y cyngor sir, ac mi wnaeth rhywun gŵyn fod y fath gwmni'n derbyn arian yn gwneud posteri mor hyll. Wedyn oedd rhaid i mi fynd ar Stondin Sulwyn - ac wrth gwrs mae pob cyhoeddusrwydd yn help tydi? Oedd o'n gyhoeddusrwydd da i'r sioe ac fe wnaethon ni werthu allan.

Image copyright Derec Owen
Image caption Arwydd tu allan i swyddfa Bara Caws yn y dyddiau cynnar

Mae gan y cwmni benblwydd go arbennig yn 2017 yn 40 oed. Oes 'na gynlluniau ar y gweill i ddathlu, ac ydach chi'n rhagweld y bydd y cwmni'n dal yma mewn 40 mlynedd arall?

Faswn i'n lecio meddwl y bydd o. Mae 'na gynlluniau i ddathlu - fedra i ddim dweud gormod ar hyn o bryd - ac mae'n dibynnu os fydda ni'n dal yma yn y flwyddyn newydd. Mi fydda ni'n cael gwybod ein tynged fel pob cwmni arall os bydda ni'n dal i gael cario 'mlaen.

Ond o ran dathlu mae 'na lyfr yn mynd i gael ei 'sgwennu ar hanes y cwmni felly fydd hwnnw'n ddifyr - i weld yr holl esblygu sydd wedi bod o'r cychwyn un, lle'r oedd pump o bobl yn dod at ei gilydd ar y grisiau yn 'steddfod Abertawe a phenderfynu eu bod nhw am gychwyn cwmni.

Da ni yn chwilio am gartref newydd, felly os oes 'na rywun eisiau meddwl am gartref newydd i ni, 'da ni angen lle mwy a dweud y gwir - mae'n gyfyng iawn yn fan hyn - ac er mwyn i ni gael datblygu ymhellach mae angen cartref newydd mwy moethus na sydd ganddo' ni fan hyn. Da ni'n haeddu ar ôl 40 mlynedd rhywle neis i weithio ynddo fo.

Wrth edrych yn ôl, dwi wedi mwynhau pob munud o fy ngyrfa, a dwi wedi cyfarfod pobl ffantastig dros y blynyddoedd - yn ysgrifenwyr, yn actorion, yn bobl y gymuned. Mae hi'n lyfli o job a dwi wedi bod yn lwcus fy mod i wedi cael gwneud beth oeddwn i eisiau ei wneud yn fy mywyd.

Straeon perthnasol