Gwrthdrawiad lori Caerfaddon: Cyhuddo dau ddyn

Cafodd pedwar o bobl eu lladd yn y gwrthdrawiad
Image caption Cafodd pedwar o bobl eu lladd yn y gwrthdrawiad

Mae Heddlu Avon a Somerset yn dweud eu bod wedi cyhuddo dau ddyn gafodd eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerfaddon laddodd bedwar o bobl ym mis Chwefror.

Fe darodd lori 30 tunnell, oedd yn cael ei gyrru i lawr Lansdown Lane, yn erbyn cerbydau a cherddwyr ar 9 Chwefror.

Bu farw Phil Allen a Stephen Vaughan, 52 a 34 oed ac o Abertawe, Robert Parker, 59 o Gwmbrân, a Mitzi Steady, pedair oed o Gaerfaddon.

Dywed yr heddlu bod Phillip John Potter, 19 oed, o Dauntsey, Wiltshire, yn wynebu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a dau gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae Matthew Gordon, 29 oed, hefyd o Dauntsey, yn wynebu pum cyhuddiad yn ymwneud a'r ddamwain.

Mae'r ddau ddyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerfaddon ar 21 Ionawr.

Image caption Fe darodd lori 30 tunnell yn erbyn cerbydau a cherddwyr yn y gwrthdrawiad