Shaun Edwards yn arwyddo cytundeb newydd gyda Chymru

shaun edwards Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Shaun Edwards, hyfforddwr amddiffyn tîm rygbi Cymru, wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd.

Fe gadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru y bydd Edwards yn aros gyda thîm Warren Gatland tan o leiaf diwedd Cwpan y Byd 2019.

Fe ymunodd â'r undeb yn 2008, a bydd yn parhau yn yr un rôl.

Dywedodd Edwards: "Dwi'n falch fy mod wedi arwyddo cytundeb newydd ac y bydda' i'n parhau i fod yn rhan o awyrgylch dwi'n mwynhau gweithio ynddo."