Lluniau'r Flwyddyn 2015

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i ffotograffwyr Cymru Fyw. Dyma i chi stori'r flwyddyn mewn lluniau.

Image caption "Rwyt Ionawr yn oer a'th farrug yn wyn". Roedd Llanbrynmair ymhlith yr ardaloedd gafodd ddos go drwm o eira ddechrau'r flwyddyn
Image caption Roedd y tywydd yn brafiach ym mis Chwefror fel mae'r llun hwn o'r drudwyod yn dychwelyd i noswylio ar bier Aberystwyth yn ei awgrymu
Image caption Gwenu dros Gymru: Gŵyl Ddewi yng Nghaernarfon ddechrau Mawrth
Image caption Yr haul yn machlud ar Lyn Padarn yn Eryri fis Ebrill
Image copyright Jenna Loves Photography
Image caption Carped o glychau'r gog yng Ngwarchodfa Natur Dinas Gwenffrwd yn Rhandirmwyn, Powys ym mis Mai
Image caption Pendinas yw enw'r cwch sy'n hwylio i gyfeiriad... Pendinas, ger Aberystwyth ym mis Mehefin
Image caption Gwyliau'r haf a'r plant yn mwynhau chwilio am grancod ym Marina Conwy?
Image caption Roedd y trên yn atyniad prysur yn Gala Stêm, Llanuwchllyn
Image caption Cerddwr unig ar ben y bryn ym mharc Grangemoor, Caerdydd ym mis Medi
Image caption Blodyn unig yn brwydro yn erbyn effeithiau'r hydref
Image caption Cae o lysiau ar Benrhyn Gŵyr
Image copyright Richard Outram
Image caption Afon Idwal, Dyffryn Ogwen yn oriau mân y bore yn rhoi syniad clir i ni pam bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Rhyngwladol ym mis Rhagfyr