Pyncs Cymru a'r Sex Pistols

The Sex Pistols, y band ynghanol chwyldro cerddorol y 70au
Image caption The Sex Pistols, y band ynghanol chwyldro cerddorol y 70au

Mae amryw yn cyfrif 14 Rhagfyr 1976 fel dyddiad roddodd ysgytwad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Roedd 'na brotestio ffyrnig yng Nghaerffili i groesawu grŵp pync The Sex Pistols a oedd wedi eu gwahodd i berfformio yn sinema'r Castle yn y dref.

Cyn hyn roedd John Lydon, Paul Cook, Glenn Matlock a Steve Jones wedi perfformio yng Nghymru heb wynebu'r un gwrthwynebiad. Newidiodd popeth ar ôl i'r Pistols regi ar raglen deledu Bill Grundy a oedd yn cael ei darlledu yn fyw amser te ar 1 Rhagfyr.

Er gwaetha'r cyhuddiadau yn eu herbyn, mi lwyddodd The Sex PIstols a'u hagwedd ddi-gyfaddawd i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion ifanc. Dyma i chi rai o'r bandiau Cymraeg gafodd eu dylanwadu gan y diwylliant pync dros y blynyddoedd:

Image copyright Betsan Evans
Image caption Datblygu - Dave R Edwards a Pat Morgan
Image caption Llwybr Llaethog
Image copyright Nici Beech
Image caption Dewi Emrys a Gruff Rhys o Ffa Coffi Pawb yn y Cŵps, Aberystwyth
Image copyright Rhys Mwyn
Image caption Y Fflaps
Image copyright Medwyn Jones
Image caption Ian Morris, lleisydd egniol Tynal Tywyll
Image copyright Medwyn Jones
Image caption U Thant
Image copyright Medwyn Jones
Image caption Huw Huws, canwr Brodyr y Ffîn. Bu farw yn ifanc mewn tân mewn fflat ble roedd yn aros.
Image copyright Medwyn Jones
Image caption Mark Roberts, canwr y Cyrff
Image caption Tŷ Gwydr
Image copyright Medwyn Jones
Image caption Gorky's Zygotic Mynci