Scott Williams yn aros gyda'r Scarlets

Scott Williams

Bydd canolwr Cymru, Scott Williams yn aros gyda'r Scarlets tan 2018 ar ôl arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb.

Roedd dyfalu y byddai Williams, 25, yn arwyddo cytundeb deuol newydd gydag Undeb Rygbi Cymru, fyddai'n golygu bod yr undeb yn talu 60% o'i gyflog.

Ond fe wnaeth yr undeb dynnu yn ôl o hynny.

Dywedodd Williams ei fod yn "gyffrous" y byddai ei yrfa yn parhau ym Mharc y Scarlets.

Mae Williams wedi bod ar gytundeb deuol ers mis Mawrth, ond bydd hynny'n dod i ben yn 2016.

Mae yn ei ail dymor fel is-gapten y Scarlets, ond mae wedi bod yn dioddef o anaf i'w ben-glin ers Cwpan y Byd.

Bydd un arall o ganolwyr Cymru, Jonathan Davies yn dychwelyd i'r Scarlets o Clermont Auvergne y tymor nesaf.

Dywedodd Scott Williams: "Roedd parhau i ddatblygu yng Nghymru yn hynod o bwysig i mi.

"Hoffwn ddiolch i fwrdd y Scarlets a'r staff sydd wedi bod yn gefnogol drwy'r trafodaethau."