Achosi marwolaeth dynes drwy yrru'n ddiofal

Swansea Crown Court Image copyright Nigel Davies/Geograph
Image caption Llys y Goron Abertawe

Mae dyn sy'n wreiddiol o'r Almaen wedi cael carchar gohiriedig o 36 mis a'i wahardd rhag gyrru am flwyddyn am achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Bu farw Nicola Owen, 42, o Flaenporth yn yr ysbyty bythefnos ar ôl y gwrthdrawiad yn Aberteifi a hynny ar ôl i'w horganau fethu.

Roedd Haki Karer Celik 37 wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad ar ôl y digwyddiad ar yr A487 fis Chwefror eleni.

Dywedodd y barnwr Paul Thomas fod Celik wedi gyrru'n ddiofal.

"Roeddech yn canolbwyntio gormod ar y car o'ch blaen a heb fod yn ddigon effro i beth oedd y car ar ochr arall y ffordd yn ei wneud," meddai.

Cafodd hefyd ei ddedfrydu i wneud 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned.