Treisiwr o Ferthyr Tudful yn cael ei garcharu

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron, Casnewydd
Image caption Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron, Casnewydd

Mae myfyriwr 21 oed o Ferthyr Tudful wedi cael ei garcharu am saith mlynedd ar ôl treisio myfyrwraig ar ei noson gyntaf yn y brifysgol.

Fe wnaeth Akeem Hassain dreisio'r ddynes 20 oed ar ôl iddi fod yn yfed gyda myfyrwyr eraill yn ystod Wythnos y Glas.

Roedd Hassain, oedd yn astudio gwyddorau'r heddlu, wedi dilyn y ddynes yn ôl i'w hystafell.

Clywodd y Llys fod y fyfyrwraig wedi dweud wrth Hassain i stopio ond iddo ei hanwybyddu.

Yn ôl yr erlyniad roedd Hassain "wedi targedu rhywun bregus oedd wedi gor-yfed."

Roedd Hassain wedi gwadu treisio, gan ddweud fod y ddynes wedi cydsynio i ryw.

Fe wnaeth y barnwr yn Llys y Goron Casnewydd orchymyn fod enw Hassain yn cael ei roi ar y gofrestr rhyw.