A oedd Celtiaid?

elin jones

Wrth i ni chwilio am anrhegion Nadolig eleni, bydd rhai ohonom yn siwr o gael ein denu gan nwyddau'r siopau 'Cymreig'.

Yn aml iawn, mae'r rhain wedi'w haddurno gyda phatrymau llinellau troellog - y patrymau Celtaidd sy'n gysylltiedig â Chymru, Llydaw, Cernyw, yr Alban, yr Iwerddon ac Ynys Manaw.

Ond beth yw ein cysylltiad ni yma yng Nghymru gyda'r Celtiaid mewn gwirionedd? Yr hanesydd Dr Elin Jones fu'n ymweld ag arddangosfa yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ac yma mae'n rhannu ei hargraffiadau gyda Cymru Fyw:

'Cryn ansicrwydd'

Ambell i ddarn yn unig sydd yn yr arddangosfa a gafodd eu darganfod yng Nghymru, ond cymharol brin yw'r gwrthrychau o'r cyfnod hwn sydd wedi eu darganfod yma hyd yn hyn.

Eto i gyd, mae'n braf gweld rhai o drysorau'r Amgueddfa Genedlaethol yn ymgartrefu gyda thrysorau gwledydd eraill Ewrop.

Ymhlith y gwrthrychau o Gymru mae dolen powlen Eryri, a'r plac a ddaeth i'r golwg yn Llyn Cerrig Bach, Môn. Mae'r ddau wedi eu haddurno gyda'r patrymau Celtaidd - y patrymau cain mae modd eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd.

Ond trist yw sylwi cyn lleied o sylw sy'n cael ei roi i'r ieithoedd Celtaidd, y trysorau byw a hynafol hynny, ac i'r patrymau cynganeddol cain yn ein barddoniaieth sy'n adlewyrchu - neu'n efelychu'r - patrymau gweledol cymhleth y Celtiaid.

Trysorau amgueddfaol sydd yn yr arddangosfa yn Llundain, wedi'r cyfan - gwrthrychau hardd o fetel a charreg, difywyd. Tybed faint a ŵyr yr archaeolegwyr ysgolheigaidd a'u casglodd at ei gilydd am y dolenni cynganeddol sy'n ein cydio o hyd at ein gorffennol pell?

Image copyright AFP
Image caption Un o'r creiriau gafodd ei ddarganfod yn Llyn Cerrig Bach

Hanes parchus y Celtiaid

'Y Celtiaid' yw'r enw poblogaidd i'r bobl a'u creodd gyntaf, dros ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl. Ond mae cryn ansicrwydd bellach am y bobl hyn.

Nid yw archaeolegwyr a haneswyr yn hoff o'r gair 'Celt'. Gwell ganddyn nhw derm mwy ffeithiol a gwrthrychol fel 'pobl yr Oes Haearn' - sef y bobl gyntaf yn Ewrop i ddefnyddio haearn - ac i addurno gwrthrychau gyda'r patrymau a alwn yn Geltaidd.

Serch hynny, mae hen hanes parchus i'r enw 'Celt'.

Cyfeiria awduron Groeg a Rhufain clasurol at Geltiaid. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y Celtiaid yn digwydd mor gynnar â 517 CC, ac mae Herodotus, y 'tad hanes' ei hun, yn sôn amdanyn nhw hefyd.

Ond mae un problem gyda phob un o'r cyfeiriadau cynnar a phendant hyn: mae'r Celtiaid yn cael eu lleoli mewn ardaloedd gwahanol iawn i wledydd 'Celtaidd' heddiw.

Maen nhw'n cael eu disgrifio fel brodorion ardaloedd eang sy'n ymestyn o'r Sbaen fodern, draw trwy ganolbarth Ewrop mor bell â Thwrci, a does dim cyfeiriad atynt yn byw yn Ynysoedd Prydain.

Ond o ddiwedd yr ymerodraeth Rufeinig tan y cyfnod modern cynnar does dim cyfeiriadau at y Celtiaid. Roedd mwy o ddiddordeb gan ysgolheigion mewn diwinyddiaeth na hen hanes yr oesoedd paganaidd gynt. Yna, daeth y Dadeni Dysg, ac ail-ddarganfod yr awduron clasurol.

Mae ôl y patrymau Celtaidd hefyd i'w canfod o hyd yn wisg ac addurniadau Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol. Patrymau Celtaidd sydd ar y gwisgoedd a'r offer, ac yno ymfalchïwn yn ein hiaith Geltaidd hynafol.

Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Cadwyn gaethweision o'r Oes Haearn gafodd ei darganfod yn Llyn Cerrig Bach

Dadlau brwd

Ond beth am yr honiadau oedd yn bodoli am y gwledydd a'r ieithoedd Celtaidd? Faint o hawl oedd gan rai o drigolion presennol ynysoedd Prydain i ddisgrifio'u hun fel Celtiaid, a defnyddio'r patrymau Celtaidd i gyfleu eu hunaniaeth yn weledol?

Ar ddiwedd y 20G, dechreuodd rhai archaeolegwyr ddadlau na ddylid cyfeirio at drigolion Ynysoedd Prydain yn yr Oes Haearn fel Celtiaid, am nag yw un o'r awduron clasurol yn sôn am Geltiaid yn byw yn yr ardaloedd hynny.

Ar ben hynny, mae rhai gwahaniaethau archaeolegol, fel yr arfer ym Mhrydain o adeiladu tai crwn yn hytrach na'r tai sgwâr sy'n nodweddu trigfannau Celtiaid y cyfandir.

Mae dadlau brwd wedi bod am hyn yn y byd archaeolegol, gyda rhai arbenigwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod y dadleuon wedi dechrau adeg datganoli, a bod Gweriniaieth Iwerddon wedi defnyddio patrymau a cysyniadau Celtaidd wrth greu delweddau eu cenedlaetholdeb.

Mae rhan ar ddiwedd yr arddangosfa wedi ei chysegru i ddiwylliant gwledydd Celtaidd Prydain, ac mae rhai o drysorau'r Orsedd i'w gweld yno hefyd.

Mae'n ymddangos felly fod hawl gyda ni i uniaethu gyda'r Celtiaid o hyd, ac, wrth syllu ar y patrymau cymhleth, hardd, i weld nid patrwm yn unig, ond darn o'n hanes ni hefyd.

Image caption Mae'r arddangosfa, "Celts: art and identity", i'w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain