Gwobrwyo cyngor am doiledau glan

Toilet Image copyright Chris Whitehouse/ Geograph
Image caption Mae hen orsaf y bad achub yng Nghei Newydd bellach yn doiledau cyhoeddus

Mae cyngor yn dathlu llwyddiant ar ôl ennill nifer o wobrau yng nghystadleuaeth Toiledau'r Flwyddyn.

Enillodd Cyngor Ceredigion 22 o wobrau platinwm, wyth gwobr aur a phedair gwobr gyffredinol.

Dywedodd rheolwraig gwasanaethau glanhau y cyngor, Jasmine Wilson, fod y cyngor yn cael ei adnabod "fel y gorau ym Mhrydain" yn y maes yma.

Enillodd wobrau am gael y toiledau cyhoeddus gorau, glanweithdra, addysg a gofal iechyd gorau drwy Brydain.

Roedd y wobr addysg am gael y toiledau ysgol glanaf, tra roedd y wobr am ofal iechyd yn cael ei rhoi am safon eu toiledau mewn cartrefi gofal.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams ei fod yn "rhyfeddol" bod safon y toiledau wedi ei gynnal mor dda yn dilyn toriadau i wasanaethau cyhoeddus.