Alan Curtis: Garry Monk 'wedi ei adael i lawr'

Alan Curtis a Garry Monk Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Alan Curtis, rheolwr dros dro clwb pêl-droed Abertawe, wedi dweud fod chwaraewyr a staff y clwb yn teimlo fel eu bod wedi "gadael Garry Monk i lawr".

Cafodd Monk, 36 oed, ei ddiswyddo fel rheolwr y clwb ddydd Mercher, wedi dim ond un fuddugoliaeth mewn 11 gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Alan Curtis fydd wrth y llyw ar gyfer gêm Abertawe yn erbyn Manchester City ddydd Sadwrn.

"Rydym i gyd yn teimlo, staff a chwaraewyr, fel ein bod wedi ei adael i lawr ac rydym am fynd rhywfaint o'r ffordd i gywiro hyn ddydd Sadwrn", meddai.

'Dyletswydd anferth'

"Mae rhai'n dweud ei bod hi'n rhy hwyr gan fod Garry wedi mynd yn barod, ond mae dyletswydd anferth arnon ni i'r clwb a'n cefnogwyr.

"Mae angen pob pwynt y gallwn ei gael arnon ni ac fe wnawn ni ein gorau i fod yn gystadleuol a chael rhywbeth allan o gêm anodd."

Ar y funud, mae Abertawe un pwynt uwchlaw'r safleoedd sy'n disgyn o'r Uwch Gynghrair yn sgil colli'r gêm gartref yn erbyn Leicester City ddydd Sadwrn o 3-0.

Roedd Monk wedi bod gyda'r clwb ers dros 11 o flynyddoedd, yn gyntaf fel amddiffynnwr ac wedyn fel rheolwr ers mis Chwefror 2014 pan adawodd Michael Laudrup y clwb.

'Anodd'

Dywedodd Alan Curtis, sydd yn gyn chwaraewr gyda'r Elyrch, fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn "anodd i bawb".

"Rydym i gyd wedi arfer gweld rheolwyr yn gadael achos yn anffodus mae'n rhan o'r gêm", meddai Curtis wrth wefan y clwb.

"Ond roedd ymadawiad Garry'n teimlo'n llawer mwy personol i bawb am ei fod wedi bod gyda'r clwb mor hir, gyda'r cyn hyfforddwr Kristian O'Leary.

"Mae'r garfan i gyd gyda'i gilydd ac maen nhw am weld ein cefnogwyr yn eu gweld yn ymladd a brwydro am bopeth. Dyna'r peth lleiaf maen nhw'n ei haeddu."