Gleision 37-27 Montpellier

Canolwr y Gleision Rey Lee-Lo yn wynebu amddiffyn Montpellier Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Canolwr y Gleision Rey Lee-Lo yn wynebu amddiffyn Montpellier

Daeth y Gleision yn ôl i guro Montpellier ac ennill pwynt bonws yng Nghwpan Her Ewrop.

Fe aeth y tîm o'r brifddinas ar y blaen diolch i gais Rhys Patchell ar ôl 43 eiliad, ond daeth Montpellier yn ôl i reoli'r gêm gyda thri chais mewn 18 munud.

Sgoriodd Josh Navidi a Lloyd Williams geisiadau cyn i Alex Cuthbert dirio i'w rhoi ar y blaen unwaith eto.

Fe sicrhaodd ail gais Navidi'r fuddugoliaeth, ond fe ennillodd y clwb o Ffrainc bwynt bonws diolch i gais hwyr Charles Geli.