Dau yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ

Gwasanaeth Tan

Mae dau o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu hachub o dân mewn tŷ yng Nghaerffili.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r digwyddiad yn ardal Pwll y Pant am tua 10:25 fore Sadwrn.

Y gred yw bod y ddau yn dioddef o effeithiau mwg.

Cafodd criwiau eu gyrru o Aberbargod a Chaerffili.