Tlws yr FA: Tranmere Rovers 2-4 Wrecsam

Wes York Image copyright Getty Images

Mae Wrecsam yn symud ymlaen i ail rownd Tlws yr FA wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Tranmere Rovers.

Wes York sgoriodd gyntaf yn dilyn gwaith da gan Dominic Vose, cyn i Vose ei hun ddyblu'r sgôr.

Cafodd Tranmere un gôl drwy James Norwood cyn yr egwyl, ond sgoriodd Sean Newton yn fuan wedi'r hanner.

Manny Smith gafodd yr olaf i Wrecsam, gan benio i'r rhwyd cyn i Norwood sgorio ei ail yn hwyr yn y gêm.