Notts County 4-3 Casnewydd

Notts County v Casnewydd

Sgoriodd Liam Noble i Notts County gydag eiliadau'n weddill i sicrhau buddugoliaeth mewn gem gyffrous yn erbyn Casnewydd.

Aeth Casnewydd ar y blaen yn gynnar yn y gêm wedi goliau cynnar gan Mark Byrne ac Alex Rodman.

Ond fe wnaeth Noble fanteisio ar gamgymeriad i leihau'r bwlch, cyn i Izale McLeod rwydo i unioni'r sgôr.

Rhoddodd McLeod y tîm cartref ar y blaen yn fuan wedyn cyn i Scott Boden sgorio i Gasnewydd.

Ond Notts County gafodd y gair olaf wrth i Noble sicrhau'r pwyntiau yn yr eiliadau olaf.