Gwrthdrawiad car heddlu: Dyn yn yr ysbyty

Heddlu

Mae seiclwr yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar yr heddlu oedd yn ymateb i alwad brys.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y car Ford Focus, oedd heb arwyddion yr heddlu arni, wedi taro dyn yn ei arddegau ar yr A4138 yn Llanelli am tua 22:00 nos Wener.

Cafodd y seiclwr anaf i'w goes.

Roedd gan y car oleuadau glas ymlaen a seiren yn canu pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ac mae ymchwiliad wedi dechrau i'r digwyddiad.