Gweilch 19-16 Bordeaux-Begles

Dan Evans of Ospreys is tackled by Felix Le Bourhis Image copyright Huw Evans picture agency

Dan Biggar sgoriodd holl bwyntiau'r Gweilch i'w cadw ar frig Grŵp 2 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Roedd Bordeaux ar y blaen erbyn yr egwyl wedi cais Felix le Bourhis, ond newidiodd y gêm pan gafodd Jean-Baptiste Dubie ei yrru o'r cae am dacl uchel ar Biggar.

Llwyddodd y Gweilch i fanteisio yn syth wrth i Biggar sgorio'r cais a chicio'r trosiad.

Er iddyn nhw fod dan anfantais, daeth yr ymwelwyr yn ôl ac fe ddaethon nhw'n agos at gipio'r fuddugoliaeth ond i Jean-Baptiste Poux gael cerdyn melyn gyda munudau'n unig yn weddill.