Cyngor Gwynedd yn gwrthod cais i godi 366 o dai ym Mangor

Mae'r safle dan sylw rhwng Ffordd Caernarfon a Phenrhosgarnedd
Image caption Mae'r safle dan sylw rhwng Ffordd Caernarfon a Phenrhosgarnedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi gwrthod cynllun dadleuol i adeiladu cannoedd o dai newydd yn ardal Bangor.

Roedd y cyngor yn cwrdd i drafod y cais ddydd Llun ac roedd 'na argymhelliad i'w gymeradwyo.

Ond cafodd y cais ei wrthod o chwe phleidlais i bump, ar y sail y byddai'r datblygiad yn niweidio'r iaith Gymraeg, ac na fyddai'r isadeiledd lleol yn gallu ymdopi â chymaint o dai newydd. Roedd pryder hefyd nad oedd digon o le yn ysgolion yr ardal, ac y byddai'n arwain at or-ddatblygu ym Mangor.

Roedd y datblygwyr, cwmni Morbaine, eisiau codi hyd at 366 o dai ar dir ym Mhen y Ffridd.

Yn ôl adroddiad i'r cyngor, roedd y cynllun wedi denu nifer "sylweddol" o lythyrau a deiseb yn gwrthwynebu'r cais.

Roedd y swyddogion cynllunio wedi argymell bod y cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio, gan ddadlau nad oedd dewis arall am fod y tir dan sylw wedi'i glustnodi ar gyfer codi tai fel rhan o'r cynllun unedol.

Dywed y swyddogion y byddan nhw rŵan yn dod â'r mater yn ôl at y pwyllgor ar gyfer trafod ymhellach.

Image caption Byddai'r fynedfa i'r datblygiad arfaethedig wedi bod oddi ar Ffordd Caernarfon

'Parhau i wrthwynebu'

Wedi'r penderfyniad ddydd Llun, dywedodd un o drigolion Pen y Ffridd, Howard Huws, a ddechreuodd ddeiseb yn gwrthwynebu'r cais:

"Mae'r cynghorwyr wedi cefnogi dymuniad pobl Bangor, maen nhw wedi cefnogi'r iaith Gymraeg a pharhad cymuned Penrhosgarnedd fel cymuned hyfyw."

"Dwi'n derbyn y daw o'n ôl - dwi ddim yn disgwyl i gwmni datblygu ollwng y cyfle...ond byddwn ni'n parhau i wrthwynebu."

'Newid yn y gyfraith'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi croesawu penderfyniad y pwyllgor cynllunio i wrthod cais.

Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd rhanbarth lleol y Gymdeithas: "Mae cyfraith am statws y Gymraeg yn y system gynllunio ar fin newid. Mae hynny'n cynnig cyfle arbennig i gynghorwyr wrthod y cais os yw'n cael ei ailgyflwyno.

"Byddwn ni'n ysgrifennu at aelodau'r pwyllgor a'r swyddogion i ofyn iddyn nhw ddefnyddio'r pwerau newydd, a fydd gyda nhw o ddechrau mis Ionawr ymlaen, er mwyn sicrhau bod nhw'n atal y datblygiad arfaethedig er lles yr iaith."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb cwmni Morbaine i benderfyniad Cyngor Gwynedd.

Straeon perthnasol