Rhys Patchell i adael y Gleision

Rhys Patchell Image copyright Huw Evans picture agency

Fe fydd Rhys Patchell yn gadael Gleision Caerdydd ar ddiwedd y tymor.

Fe gadarnhaodd y rhanbarth y newyddion brynhawn dydd Llun.

Fe ddywedodd yr hyfforddwr, Danny Wilson fod y clwb "yn siomedig fod Rhys wedi gwrthod cynnig cytundeb, ac y bydd yn symud 'mlaen ddiwedd y tymor".

Ychwanegodd fod cystadleuaeth gref i wisgo'r crys rhif 10 yn y rhanbarth, a bod hynny'n bwysig.

"'Dy ni eisiau chwaraewyr sydd eisiau bod yma ac yn barod i frwydro am le yn y tîm," meddai.