Cwest: 'Anafiadau trawmatig difrifol'

katie griffith

Fe glywodd cwest fod merch, fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar, wedi dioddef anafiadau trawmatig difrifol.

Bu farw Katie Griffith yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad â char Seat Leon ar yr A5 ger Llangollen ar 4 Rhagfyr.

Roedd y ferch 18 oed o Riwbaon yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Dinas Bran.

Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun ddydd Llun, fe ddywedodd y crwner y gallai ymchwiliadau'r heddlu "gymryd cryn amser".

Fe gafodd y cwest ei ohirio.