Patchell i ymuno â'r Scarlets ar ddiwedd y tymor

Rhys Patchell Image copyright Huw Evans picture agency

Bydd y maswr Rhys Patchell yn ymuno â'r Scarlets ar ddiwedd y tymor ar ôl gadael y Gleision.

Fe gadarnhaodd y Gleision brynhawn Llun y byddai Patchell, 22 oed, yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor wedi iddo wrthod cytundeb newydd gyda'r rhanbarth.

Dywedodd Patchell: "Fel bachgen o Gaerdydd roedd hi'n benderfyniad anodd iawn i'w wneud, ac un sydd wedi bod ar fy meddwl ers tipyn o amser.

"Fe fydda' i'n gadael y rhanbarth gydag atgofion da a ffrindiau am oes."

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, ei fod yn edrych ymlaen at weld be fydd y gŵr ifanc yn ychwanegu i'w dîm.

"Mae Rhys yn chwaraewr ifanc, cyffrous," meddai. "Mae wedi bod yn chwarae yn dda iawn i'r Gleision, yn enwedig yn yr wythnosau diwethaf.

"Fe fyddwn ni yn helpu Rhys i gyflawni ei botensial yma gyda'r Scarlets."

'Siomedig'

Ddydd Llun, dywedodd hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson fod y clwb "yn siomedig fod Rhys wedi gwrthod cynnig cytundeb, ac y bydd yn symud 'mlaen ddiwedd y tymor".

Ychwanegodd fod cystadleuaeth gref i wisgo'r crys rhif 10 yn y rhanbarth, a bod hynny'n bwysig.

"'Dyn ni eisiau chwaraewyr sydd eisiau bod yma ac yn barod i frwydro am le yn y tîm," meddai.