Dyn o Romania'n gwadu treisio

Prifysgol Caerdydd
Image caption Fe ddigwyddodd y treisio honedig ger prif adeilad Prifysgol Caerdydd

Mae dyn 40 oed wedi gwadu treisio menyw ifanc y tu allan i Brifysgol Caerdydd yn ystod Wythnos y Glas.

Roedd Remus Hamza yn Llys y Goron Casnewydd yn wynebu cyhuddiad o dreisio'r fenyw 20 oed ger prif adeilad y brifysgol.

Clywodd y llys honiadau fod y drosedd yn oriau mân 20 Medi eleni.

Fe wnaeth Hamza - a aned yn Romania - ddefnyddio cyfieithydd i gadarnhau ei enw ac i bledio'n ddieuog i un cyhuddiad o dreisio.

Bydd yn sefyll ei brawf ar 15 Chwefror ac mae disgwyl i'r achos bara am dri neu bedwar diwrnod.

Penderfynodd y Barnwr Philip Richards ei gadw yn y ddalfa.