Ewrop: Cynnal dadl rhwng Carwyn Jones a Nigel Farage

jones farage

Bydd Carwyn Jones a Nigel Farage yn mynd benben mewn dadl ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

Bydd Prif Weinidog Cymru ac arweinydd plaid UKIP yn cynnal trafodaeth yng Nghaerdydd ar 11 Ionawr.

Mae Prif Weinidog y DU, David Cameron, wedi addo refferendwm ar aelodaeth y wlad o'r UE cyn 2018.

Ddydd Llun, fe lansiodd Mr Jones ymgyrch Llafur Cymru o blaid aros yn yr UE. Dywedodd y byddai gadael yr UE yn peryglu swyddi yng Nghymru.

Nôl yn 2014, cafodd dadl deledu ei chynnal rhwng Mr Farage a chyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Roedd polau piniwn ar y pryd yn awgrymu mai Mr Farage oedd yn fuddugol yn y ddadl.

Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y Sefydliad Materion Cymreig.